Marwolaeth Y Trallwng: Annog pobl i beidio â rhannu lluniau o'r digwyddiad
Mae Heddlu Dyfed Powys yn gofyn i unrhyw un oedd yn dyst i ddigwyddiad achosodd farwolaeth dyn yng nghanol tref Y Trallwng ddydd Sul i gysylltu gyda nhw.
Yn ôl y llu mae tudalen arbennig ar-lein wedi ei chreu ar gyfer pobl sydd gyda gwybodaeth all eu helpu gyda'u hymchwiliad.
Mae dyn 22 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac yn parhau yn y ddalfa.
Mae swyddogion yn awyddus i glywed gan bobl a welodd unrhywbeth yn ardal Stryd yr Eglwys o’r dref, yn ystod oriau man bore Sul rhwng 12.45 a 1.15.
Rhannu lluniau
Mae'r llu hefyd wedi annog pobl lleol i beidio â rhannu lluniau o'r digwyddiad ar y cyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd swyddogion brynhawn dydd Llun eu bod nhw'n "ymwybodol bod lluniau fideo o'r lleoliad yn cylchredeg ar y cyfryngau cymdeithasol" ac "yn gofyn nad yw hyn yn cael ei rannu ymhellach".
Dywedodd comander Powys, yr Uwcharolygydd Gareth Grant: “Nid yn unig y mae hwn yn ymchwiliad byw, a allai gael ei beryglu os yw deunydd tystiolaethol posibl yn cael ei rannu, ond mae teulu galarus wrth wraidd ein hymholiadau, yr ydym yn gofyn i’r cyhoedd eu parchu.
“Maent yn mynd trwy gyfnod annirnadwy, a’r peth olaf y byddent ei eisiau yw i eiliadau olaf eu hanwylyd gael eu trosglwyddo fel rhyw fath o adloniant.
“Gallaf sicrhau cymuned Y Trallwng fod ein tîm CID a throseddau mawr yn bwrw ymlaen â’r ymchwiliad, gan ddilyn pob llinell ymholi sydd ar gael iddynt.
“Hoffwn ddiolch i aelodau’r cyhoedd sydd wedi dod ymlaen â gwybodaeth i’n cynorthwyo, a gofyn i’r rhai a allai fod â gwybodaeth a allai helpu’r ymchwiliad gyflwyno hyn trwy’r dudalen we bwrpasol a sefydlwyd ar gyfer yr ymgyrch.
“Bydd patrolau heddlu ychwanegol yn cael eu cynnal yng nghanol y dref dros y dyddiau nesaf, a bydd y swyddogion hyn ar gael i unrhyw un sydd â phryderon.”
Llygad-dystion
Cafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad am 01.16 fore Sul wedi adroddiadau fod dyn 49 oed wedi ei anafu. Er ymdrechion y gwasanaeth ambiwlans fe fuodd y dyn farw yn y fan a'r lle.
Mae Heddlu Dyfed-Powys eisiau clywed gan unrhyw un a welodd unrhyw aflonyddwch o gwmpas Stryd yr Eglwys rhwng 00:45 ac 01:15 y bore.
Mae’r llu hefyd yn gofyn i lygad-dystion gysylltu os oes ganddynt fideo neu ddeunydd camera dangosfwrdd o’r digwyddiad, neu o’r bobl oedd yn ardal Stryd yr Eglwys yn ystod y cyfnod hwnnw.
Mae’r heddlu hefyd eisiau clywed gan unrhyw un sy’n gallu adnabod pobl eraill oedd yn y lleoliad ar y pryd.
Fe ddylai pobl gysylltu meddai'r llu trwy'r wefan Public Portal, trwy ffonio 101, e-bostio'r heddlu neu anfon neges atynt trwy'r cyfryngau cymdeithasol.
Mae modd hefyd rhoi gwybodaeth yn ddienw drwy gysylltu â Crimestoppers.