Aberystwyth: Darganfod llyfr gwerthfawr â llofnod Paul McCartney mewn siop elusen

Paul McCartney

Mae llyfr oedd wedi'i lofnodi gan Syr Paul McCartney wedi ei werthu am bron i £1,000 mewn arwerthiant.

Fe gafodd ei ddarganfod mewn siop elusen yn Aberystwyth.

Roedd y copi o lyfr Paul McCartney In His Own Words, sef casgliad o gyfweliadau gyda seren The Beatles, wedi ei adael i siop Oxfam yn y dref.

Doedd neb wedi rhoi llawer o sylw i'r llyfr am nifer o fisoedd cyn i'r llofnod gael ei ddarganfod gan reolwr y siop, Joan Randle.

Cafodd y llyfr ei werthu mewn arwerthiant Bonhams, gan godi £950 i elusen Oxfam.

Dywedodd Ms Randle: “Roedd y llyfr wedi bod yn eistedd ar silff am ychydig fisoedd ochr yn ochr â llawer o bethau cofiadwy eraill o'r 1970au.

“Roeddwn i wedi bod yn bwriadu defnyddio rhai o'r eitemau mewn arddangosfa ffenestr, felly nid oedd yn rhywbeth yr oeddem wedi rhoi sylw arbennig iddo ar y dechrau.

“Un prynhawn, roedd gen i ychydig o amser sbâr a phenderfynais weithio fy ffordd drwy’r pentwr. Roedd yn un o’r pethau olaf i mi edrych arno.

“Pan agorais y llyfr a gweld llofnod Paul McCartney, prin y gallwn gredu'r peth… roedd yn un o’r adegau gorau o’m 10 mlynedd yn gweithio yn y siop.”

Mae'r llyfr wedi'i lofnodi ar y clawr blaen mewnol mewn beiro ddu gan Syr Paul, gyda'r geiriau: “All the best! to ye!”

Hyd yma, nid yw staff Oxfam wedi gallu olrhain rhoddwr y llyfr.

Dywedodd llefarydd ar ran Oxfam: “Mae hwn yn enghraifft wych o sut y gall un rhodd wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

“Rydym newydd lansio apêl argyfwng yn dilyn y daeargryn dinistriol yn Venezuela ac mae pob rhodd i'n siopau yn helpu i sicrhau y gall Oxfam ymateb pan fydd cymunedau'n cael eu taro gan drychinebau ledled y byd."

Llun: Bonhams

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.