Islwyn Evans yn ennill Medal Goffa TH Parry-Williams yn Eisteddfod y Garreg Las

Islwyn Evans

Y cyfarwyddwr corawl a’r athro llais Islwyn Evans yw enillydd Medal Goffa TH Parry-Williams yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las 2026. 

Hanner can mlynedd ers cyflwyno’r fedal am y tro cyntaf, Menter Iaith Sir Benfro sy’n ei rhoi eleni i gydnabod gwaith arbennig gyda phobl ifanc.

Dan ofal Islwyn Evans, mae Ysgol Gerdd Ceredigion wedi ennill teitl Côr Cymru deirgwaith ac wedi dod i’r brig yng nghystadlaethau corawl yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

Derbyniodd y newyddion am y Fedal yn ystod ymarfer côr. Wrth ymateb dywedodd: "Fe gefais fy nal allan yn gyfan gwbl yng nghanol yr ymarfer canol fis Mehefin, roeddwn yn fud ar y pryd a doeddwn ddim yn gwybod beth i feddwl.

"Mae'n anrhydedd o'r mwyaf i'w gael a beth mae'r wobr yn ei olygu a'r rhai sydd wedi ei dderbyn ar hyd y blynyddoedd."

Yn enedigol o Henllan Amgoed ar gyrion Hendy-gwyn ar Daf, Sir Gaerfyrddin, mae Islwyn Evans wedi arwain corau yng Nghymru ers dros ddeugain mlynedd.

Dechreuodd ei yrfa fel cerddor, gan roi sylw arbennig i feithrin lleisiau pobl ifanc, tra’n fyfyriwr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Yn dilyn hynny, derbyniodd wobr Arweinydd Corau Ieuenctid y Ffederasiwn Brydeinig, ac Ysgoloriaeth Winston Churchill a theithiodd i Sweden ac Hwngari i astudio’r grefft o hyfforddi corau plant. 

Sefydlodd Gôr Ieuenctid Dyffryn Teifi yn 1985 cyn sefydlu Ysgol Gerdd Ceredigion yn 1993. 

Mae’r côr yn parhau i ddatblygu sgiliau cerddorol, offerynnol a lleisiol pobl ifanc dan arweiniad gwirfoddol Islwyn.

Gyda chenhedlaeth gyntaf yr Ysgol Gerdd yn awyddus i barhau i ganu, sefydlodd Gôr Cymysg Cywair yn 2003. 

Aeth y côr ymlaen i ennill prif wobr Côr Cymru ddwywaith a theitl Côr y Byd yn Eisteddfod Llangollen yn 2005.

Bydd Islwyn Evans yn derbyn Medal Goffa Syr TH Parry-Williams ar lwyfan y Pafiliwn am ddydd Mawrth 4 Awst am 12:00.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.