'Lle i wella cymorth i bobl heb gartref parhaol' medd pennaeth elusen i'r digartref
Wrth i ffigyrau newydd ddydd Iau ddangos bod dros 10,000 o bobol Cymru mewn llety dros dro, mae pennaeth un elusen ddi-gartre'n dweud bod lle i wella o ran y cymorth sydd ar gael i bobol sydd heb gartre parhaol.
Mae Sian Elen Tomos, Prif Weithredwr Gisda, sy'n helpu pobol ifanc rhwng 16 a 25 oed yng Ngwynedd, yn dweud bod angen cydlynu'r cymorth yn y gwahanol feysydd polisi - a hynny'n ymwneud â mwy na'r ffaith fod rhywun yn ddi-gartre.
Ers 40 mlynedd mae Gisda wedi bod yn cefnogi pobol ifanc yng Ngwynedd, gan gynnig llety lle bydd angen.
"Dach chi'n son am ddigartrefedd ond wrth gwrs mae materion eraill yn effeithio ar bobol ifanc," meddai Sian Elen Tomos.
"Trafnidiaeth gyhoeddus, addysg, eu hyddorddiant nhw, sut mae'u hiechyd meddwl nhw, beth ydy cefnogaeth teulu, a wedyn dwi'n meddwl beth sydd ei angen ydy gwneud yn saff bod y meysydd polisi gwahanol yma'n gydlynol mewn ffordd, bod nhw i gyd yn ymwneud efo'i gilydd fel bod ni'n sicrhau bod y person ifanc yn y canol.
"Sa fo'n gallu bod yn well oherwydd bod na rai materion megis y wladwriaeth les sydd heb gael ei ddatganoli i Gymru."
Image
Sian Elen Tomos, Prif Weithredwr Gisda
Mae nifer o bobol sy'n cael llety yn Nhŷ Penrhyn, Bangor yn gyfarwydd a bod yn ddi-gartre. Yno fe allan nhw gael cymorth i'w gwella o ddibyniaeth ar alcohol a chyffuriau.
Un o'r rheini sydd wedi cael cymorth ydy Arwel Griffith, sy'n 36 oed. Wedi blynyddoedd o fod yn gaeth i gyffuriau, mae'n gyfarwydd â threulio cyfnodau'n ddi-gartre, a Chyngor Gwynedd yn trefnu llety iddo ar wahanol gyfnodau ym Mhwllheli, y Felinheli a Bangor. Mae o bellach yn byw gyda'i rieni.
"Dwi dal yn cwffio obviously", meddai. "Yr addiction, dwi mewn ac allan o recovery. Dwi'n mynd i Lancaster mis nesa i rehab mewn chwech mis .... Di'o'm yn lle braf i fod, yn enwedig pan dwi mewn addiction hefyd 'lly, wrth gwrs mae gynnon nhw bolisi dim drygs ac alcohol, a dio'm mor hawdd a hynny jyst peidio a chymryd drygs."
Image
Arwel Griffith
Fe gefais i air â gŵr arall yn Nhŷ Penrhyn, fu'n gaeth i alcohol a chocen am flynyddoedd. Roedd yn fodlon siarad, ond ddim am i ni gyhoeddi'i enw. Mae yntau wedi treulio cyfnodau'n ddi-gartre, gan gynnwys cysgu yn yr awyr agored.
"Dwi wedi gael tri gwaith lle dwi di splitio efo partneriad aballu a wedyn gadael y tŷ iddyn nhw efo'r plant a mynd o soffa i soffa neu trio cael lle gan cownsil a dim help i gael," meddai.
"Dwi wedi bod ar y stryd .... wnesh i fynd un amser ar ol splitio fyny, nesh i just fynd a mynd am gerdded a wnesh i aros yn ddigartre am tua wsnos mewn fath a cae a tent gen i, o'n i di bod i'r cownsil ond doedd na ddim byd de."
Eto i gyd, mae'n dweud bod y cymorth y mae wedi'i gael yn Nhŷ Penrhyn wedi bod o gymorth mawr.
"Mae o di helpu lot, mae di safio 'mywyd i ddeud y gwir efo'r ffrindia dwi di gwneud, ffrindiau newydd a dan ni gyd mewn recovery efo'n gilydd a helpu'n gilydd mor gymaint."
Wrth ymateb fe ddywedodd Llywodraeth Cymru fod rheidrwydd ar gyrff cyhoeddus bellach i gydweithio yn dilyn y ddeddf ddigartrefedd ddaeth i rym yn gynharach eleni.
Dros 10,000 o bobl mewn llety dros dro
Mae'r ffigyrau sydd newydd eu cyhoeddi drwy law'r Llywodraeth yn dangos bod 10,282 o bobol wedi eu cofnodi mewn llety dros dro ar 31 Mai 2026.
Yn ystod y mis hwnnw'n unig, fe symudodd 1,263 o bobol i lety o'r fath - 267 yn blant o dan 16 oed.
Er nad oes fawr o newid wedi bod, mae'r nifer ychydig yn llai na'r hyn gafodd ei gofnodi ddiwedd Mai ymhob un o'r tair blynedd diwetha.
Amcangyfrif Llywodraeth Cymru ydy bod 162 o bobol yn cysgu ar y stryd, a'r nifer hwnnw wedi codi o'i gymharu a diwrnod ola Mai ymhob un o'r tair blynedd diwetha.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod cyrff cyhoeddus yn gorfod cydweithio yn y maes yma ar ôl i ddeddf newydd Di-gartrefedd a Thai Cymdeithasol Cymru 2026 ddod i rym ym mis Ebrill.
Mae hynny, yn ôl y Llywodraeth, yn rhoi'r pwyslais ar atal pobol rhag mynd yn ddi-gartre yn hytrach nag ymateb ar ôl i hynny ddigwydd.
Yn achos pobol ifanc, mae'n golygu adnabod risg yn gynt, cydweithio'n well yn achos Tai, Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol, a bydd rhaid sicrhau bod gan y rheini sy'n gadael gofal lety addas a chefnogaeth wrth addasu at fyw'n annibynnol.
Fe ychwanegodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gwario £211 miliwn eleni drwy'r Grant Cymorth Tai i atal di-gartrefedd, a helpu pobol ifanc i gael a chadw cartref.
Yn y flwyddyn ariannol bresennol fe fe fydd dros £7 miliwn yn cael ei wario ar atal di-gartrefedd ymhlith pobol ifanc, a bydd £454 miliwn yn cael ei fuddsoddi ym maes tai cymdeithasol, gyda £20 miliwn ychwanegol yn y gyllideb ddrafft atodol.