Infantino yn ymddiheuro am 'gamgymeriadau' ond yn parhau yn llywydd FIFA

Gianni Infantino

Mae llywydd FIFA wedi ymddiheuro am y "camgymeriadau" a wnaeth wrth hyrwyddo cynlluniau dadleuol i werthu cyfranddaliadau mewn cystadlaethau i fuddsoddwyr preifat.

Er hynny, bydd Gianni Infantino yn parhau yn ei swydd ar ôl derbyn cefnogaeth uwch swyddogion mewn cyfarfod ym Moroco.

Roedd Infantino wedi galw ar aelodau'r bwrdd rheoli i fynychu cyfarfod yn swyddfa FIFA yn Affrica ddydd Mercher yn dilyn gwrthwynebiad eang.

Pedair awr ar ôl i'r cyfarfod ddod i ben, cyhoeddodd corff llywodraethu FIFA ddatganiad yn cadarnhau ei gefnogaeth iddo.

Dywedodd UEFA, corff llywodraethu pêl-droed Ewrop, dros y penwythnos ei fod wedi "colli hyder" yn arweinyddiaeth Infantino.

Roedd Cymru ymhlith gwledydd UEFA a wnaeth hynny.

Daeth llawer o'r gwrthwynebiad o fewn FIFA ei hun, gan gynnwys gan yr ysgrifennydd cyffredinol, Mattias Grafstrom, a oedd yn y cyfarfod.

Mewn neges fewnol at staff FIFA ddydd Mawrth, dywedodd Grafstrom fod y sefyllfa yn "gyfres drist ac annerbyniol o ddigwyddiadau".

Er hynny, mewn datganiad ar ôl y cyfarfod, fe wnaeth Grafstrom a'r bwrdd rheoli ail-gadarnhau eu "cefnogaeth lawn" i Infantino fel llywydd.

Roedd Infantino a Grafstrom hefyd wedi anfon llythyr wedi'i lofnodi at is-lywyddion, cyngor a 211 o gymdeithasau aelod FIFA, gan ddweud eu bod yn "ymddiheuro'n ddiffuant" am eu camgymeriadau ac yn "ymrwymo i sicrhau na fyddant yn digwydd eto".

Cafodd y ddau eu gweld yn ddiweddarach yn chwerthin gyda'i gilydd wrth wylio gêm AFCON y Merched yn Rabat.

Roedd Infantino wedi cynnig $40m (£30m) i 211 o gymdeithasau aelod FIFA pe bydden nhw’n cefnogi cynnig ar gyfer buddsoddiad preifat yn ei gystadlaethau, gan gynnwys Cwpan y Byd i ddynion a merched, trwy is-gwmni newydd, FFE.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.