Ian Huntley wedi 'ei daro ar ei ben' gyda bar metel - agoriad cwest

Ian Huntley

Bu farw llofrudd Soham, Ian Huntley, yn yr ysbyty o ganlyniad i anaf i’w ben ar ôl ymosodiad honedig, clywodd agoriad cwest ddydd Mawrth. 

Cafodd Huntley ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn y digwyddiad mewn gweithdy yng ngharchar EM Frankland ar fore Iau, 26 Chwefror.

Clywodd cwest yn Crook, Sir Durham, bod y dyn 52 oed wedi marw yn Ysbyty Brenhinol Victoria yn Newcastle ar 7 Mawrth.

Roedd wedi dioddef ymosodiad honedig â bar metel yn y carchar yn Durham ar 26 Chwefror.

Mae Anthony Russell, 43 oed, wedi ei gyhuddo o lofruddio Huntley yn y carchar diogelwch uchaf.

Bydd yn ymddangos nesaf yn Llys y Goron Newcastle ar 24 Ebrill ar gyfer gwrandawiad paratoi cyn achos llys.

Dywedodd swyddog y Crwner Bradley King:

“Rwyf yn deall mai’r amgylchiadau oedd bod Mr Huntley wedi ei daro ar ei ben sawl gwaith gan garcharor arall gyda gwrthrych sydd wedi’i ddisgrifio fel bar metel,” meddai.

“Dioddefodd Mr Huntley anafiadau difrifol i’w ben o ganlyniad i’r ymosodiad.”

Fe gafodd y cwest ei ohirio tan 27 Mai.

Y cefndir

Roedd Huntley yn y carchar am oes am lofruddiaethau Holly Wells a Jessica Chapman, y ddwy yn 10 oed, yn 2002.

Lladdodd y cyn-ofalwr ysgol y ddwy ffrind ar ôl iddyn nhw adael barbeciw teuluol i fynd i brynu losin yn Soham, Sir Gaergrawnt, ar 4 Awst 2002. 

Fe waredodd eu cyrff mewn ffos 10 milltir i ffwrdd. Cafodd y ddwy eu darganfod 13 diwrnod yn ddiweddarach.

Ar y pryd, roedd Huntley yn byw gyda Maxine Carr, oedd yn gynorthwyydd dysgu yn ysgol gynradd Holly a Jessica.

Gwadu llofruddio’r merched wnaeth Huntley, ond fe gafodd ei ddyfarnu'n euog ar ôl achos llys yn yr Old Bailey yn 2003. 

Rhoddodd Carr alibi ffug i Huntley ac fe gafodd ei charcharu am 21 mis am wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae hi bellach wedi derbyn hunaniaeth newydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.