'Hunlle' rhieni o Gaerdydd o fethu â chael mynediad at driniaeth allai achub bywyd eu mab

'Hunlle' rhieni o Gaerdydd o fethu â chael mynediad at driniaeth allai achub bywyd eu mab

Mae teulu o Gaerdydd sy'n ofni bod bywyd eu mab tri mis oed yn y fantol yn gwneud ple emosiynol am driniaeth i achub ei fywyd. 
 
Aeth Dylan a Catrin Green a'u mab, Macs, i'r ysbyty yng Nghaerdydd chwe wythnos yn ôl ar iddo gael trafferth yn bwydo.
 
Dioddefodd ddau ataliad ar ei galon arweiniodd at chwyddo fentrigl yn ei galon. 
 
Mae e nawr yn ddifrifol wael mewn uned gofal dwys ac angen triniaeth 'Calon Berlin' fyddai'n ei gadw yn sefydlog tra'n aros am drawsblaniad calon.
 
Cadarnhaodd llefarydd ar ran cyd-bwyllgor comisiynu Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru bod cyllid ar gael i ariannu triniaeth ond bod "capasiti yn cael ei reoli drwy'r Deyrnas Unedig, ac mae mynediad i driniaeth yn cael ei benderfynu drwy asesiad clinigol".
Image
Macs
Mae Macs yn dri mis oed
 
Bythefnos yn ôl, cafodd Macs ei symud o Gaerdydd i Ysbyty Brenhinol Plant Bryste. Mae ei gyflwr wedi dirywio ymhellach ac mae nawr mewn coma gyda pheiriant arbenigol yn gwneud gwaith ei galon.
 
Yn ôl ei rieni, mae angen iddo gael ei symud i ysbyty Great Ormond Street yn Llundain neu i Newcastle - yr unig ddau ysbyty sydd yn cynnig triniaeth 'Calon Berlin' - ac hynny ar fyrder. Byddai'r driniaeth honno yn gallu gwneud gwaith y galon am sawl mis tra bod Macs yn aros am drawsblaniad.
 
Mewn cyfweliad emosiynol gyda Newyddion S4C, dywedodd Catrin Green ei bod hi ar ben ei thennyn: "Mae'r sefyllfa yn ddifrifol iawn. Ma' dyddiau 'da ni tan bod dim byd arall ma' nhw'n gallu wneud i Macs."
 
"Mae jyst gwatchad e yn y gwely 'na yn rili anodd i ni. Ond ie, ni jyst angen gwely iddo fe [er mwyn cael 'Calon Berlin'].
 
"Ma'n rili frustrating bod triniaeth i gael i fe i achub ei fywyd e, bod e'n gallu cael bywyd llawn... achos er y byddai'n rhaid iddo fe dod yn 'sbyty am cyfnod hir, byddai'n... gallu dysgu fel i cropian, cerdded.
 
"Bydde'n rili neis cyrraedd y cam yna. Ond ar y funud, achos bod dim gwely, dyw e ddim yn gallu gael y triniaeth ma' fe angen."
Image
Catrin, Dylan a'u teulu
Catrin, Dylan a'u teulu
Yn ôl ffigyrau gwasanaeth gwaed a thrawsblaniadau'r GIG, mae llai na phump o gleifion yn defnyddio 'Calon Berlin' ar hyn o bryd yn ysbytai Cymru a Lloegr.
 
Petai Macs yn cael y driniaeth honno, byddai wedyn angen trawblaniad. 
 
Gyda dim ond 2% o'r rhoddwyr organau marw yng Nghymru a Lloegr yn blant dan 18 oed yn ôl y ffigyrau diweddaraf, mae tad Macs, Dylan, hefyd yn awyddus i godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd rhoi organau:
 
"Mae mor bwysig i drafod rhoi organau.
 
"Dyw e ddim yn bwnc neis i drafod, ond os oes mwy o bobl yn rhoi organau, fe allan nhw helpu plant fel Macs i fyw bywydau llawn ac hapus."
 
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran cyd-bwyllgor comisiynu GIG Cymru: "Rydyn ni'n cydnabod bod hwn yn gyfnod anodd iawn i rieni, teulu a ffrindiau Macs.
 
"Gall y cyd-bwyllgor gadarnhau bod arian ar gael i gleifion Cymreig sydd angen y gwasanaethau yma. O fewn i'r gwasanaethau arbenigol iawn yma, caiff capasiti ei reoli ar lefel Brydeinig, a caiff mynediad i driniaeth ei benderfynu drwy asesiad clinigol.
 
"Rydyn ni'n deall bod y timau arbenigol sydd yn ymwneud a gofal Macs yn parhau i ganolbwyntio ar sicrhau ei fod e'n derbyn y gofal sydd angen arno. Rydyn ni'n anfon ein dymuniadau gorau at Macs a'i deulu."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.