'Hollol annerbyniol': Ymgeisydd Reform yn beirniadu difrodi arwydd ymgyrchu

Reform

Mae un o ymgeiswyr mwyaf blaenllaw Reform UK ar gyfer etholiad y Senedd ym mis Mai wedi beirniadu'r difrod i arwydd ymgyrchu un o gefnogwyr ei blaid.

Disgrifiodd James Evans, sydd ar frig rhestr ymgeiswyr Reform yn etholaeth Brycheiniog Tawe Nedd, y difrod fel gweithred "hollol annerbyniol".

Dywedodd mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Gwener fod "arwyddion ymgyrchu ac eiddo pobl wedi'u targedu gyda'r hyn yr ydym yn credu sy'n wn peli paent neu falŵns wedi'u llenwi â phaent".

"Gadewch i ni fod yn glir, mae hynny'n golygu bod pobl i bob pwrpas yn tanio at ac yn difrodi cartrefi a busnesau pobl," meddai.

"Mae hyn yn dod gan yr un bobl sy'n siarad am oddefgarwch a pharch, ond sy'n troi at hyn pan nad ydyn nhw'n hoffi safbwyntiau gwahanol.

"Beth bynnag yw eich gwleidyddiaeth, dylai hyn fod yn peri pryder i bawb. Os dyma sut mae rhai'n ymddwyn yn ystod etholiad democrataidd, ble mae'n gorffen?"

Ychwanegodd ei fod yn credu fod y fath weithred yn "croesi llinell".

Bydd yr etholiad ar gyfer Senedd Cymru yn digwydd ar 7 Mai.

Mae'r rhestr o ymgeiswyr ar gyfer etholaeth Brycheiniog Tawe Nedd yn cynnwys y canlynol:

Annibynnol: Dai Richards

Annibynnol: Beverley Jane Baynham

Annibynnol: Joe Hale

Ceidwadwyr Cymreig: Tyler John Chambers; Liz Hill O'Shea; Jane Barbara Lyons; Matthew Peter Gilbert; Hannah Jarvis; Amanda Davies

Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: Jane Dodds; Jackie Charlton; Phoebe Clare Rose Jenkins; Will Lloyd; Peter Jeffrey Chapman; Dylan Paul Calved

Gwlad: Philip Owen

Llafur Cymru: Mahaboob Basha; Alex Sims; Sarah Amber Thomas; Elliot Wigfall; Cyriac George; Chelsea Charlene Edwards; Morgan James Pritchard

Plaid Cymru: Sioned Ann Williams; Rebeca Phillips; Andrew John Jenkins; Justin David Horrell; Kate Heneghan; Chris Williams

Plaid Treftadaeth: Jennifer Roberts

Plaid Werdd Cymru: Nathan Goldup-John; Charlotte Ajomale-Evans; Amerjit Rosie Kaur-Dhaliwal; Eric Rosoman-Matthews; Kathy Oakwood; Imogen da Silva

Reform UK: James Oswald David Evans; Iain Charles McIntosh; David Terence Mills; Stephanie Moira Charles; Dewi Matthew Thomas; Celfyn Wyn Furlong

Y Blaid Gristnogol: Jeff Green; Sue Green

Image


 

 
 
 
 
 
 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.