Hofrennydd i ddychwelyd i’r Rhinogydd wrth i danau barhau ledled Cymru

hofrennydd Tan y rhinogydd

Mae disgwyl i hofrennydd ddychwelyd i fynyddoedd y Rhinogydd ger Harlech am ail ddiwrnod ddydd Sadwrn i gynorthwyo criwiau tân sy’n mynd i’r afael â’r tân gwyllt yn yr ardal.

Cafodd yr hofrennydd ei ddefnyddio ddydd Gwener i helpu criwiau i gyrraedd ardaloedd anodd ac anghysbell lle’r oedd y tân yn dal i losgi.

Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, does dim ffrynt tân bellach, ond mae nifer o fannau poeth yn parhau.

Bydd diffoddwyr tân yn parhau i weithio dros y penwythnos ac yn ystod y dyddiau nesaf i ddod â’r tân dan reolaeth.

Mae’r gwasanaeth hefyd yn parhau i fonitro nifer o danau eraill ledled y gogledd, gan gynnwys ar Fynydd Bangor, Pentrefelin yng Nghaergybi, Pentre Helygain a Mynydd yr Hôb yn Sir y Fflint, Mount Pleasant ym Mrymbo ger Wrecsam a Bwlch Sychnant yng Nghonwy.

Tanau eraill ledled Cymru

Image
Ymateb Tan Blaenafon.jpeg
Swyddogion Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn monitro’r tân gwyllt ym Mlaenafon.

Yn Sir Torfaen yn y de, mae’r gwasanaethau brys yn parhau i fynd i’r afael â thanau gwyllt sydd wedi effeithio ar 220 hectar o dir cymysg ym Mlaenafon.

Mae llinell atal lawn wedi’i chreu o amgylch y tân er mwyn ceisio’i gadw dan reolaeth, a bydd criwiau’n aros yn y lleoliad cyhyd ag y bo angen.

Yn y Rhondda, cafodd trigolion Glynrhedynog eu rhybuddio nos Wener y gallai mwg o dân yn yr ardal effeithio ar y gymuned.

Cafodd pobl eu cynghori i aros dan do a chadw ffenestri a drysau ar gau os oedd mwg yn effeithio arnyn nhw.

Mae’r gwasanaeth tân hefyd wedi cynghori pobl i gadw anadlyddion a meddyginiaeth wrth law, gan fod mwg yn gallu achosi llid i’r llygaid, y trwyn a’r gwddf.

Tu allan i Gymru 

Image
Cerbyd tân ar ei ffordd i fynd i’r afael â thân gwyllt sy’n effeithio ar dalaith Castilla y León, ym mhentref El Tiemblo, Sbaen, ar 24 Gorffennaf 2026.
Cerbyd tân ar ei ffordd i fynd i’r afael â thân gwyllt sy’n effeithio ar dalaith Castilla y León, ym mhentref El Tiemblo, Sbaen (Llun: Reuters)

Mae tanau gwyllt yn achosi trafferthion mawr mewn gwledydd eraill hefyd. 

Yn yr Alban, mae rhai o drigolion Nethy Bridge, ger tân gwyllt y Cairngorms, wedi dewis aros yn eu cartrefi ar ôl cael eu cynghori i adael fel rhagofal. 

Maen nhw wedi beirniadu ymateb yr awdurdodau, gan ddweud y dylai digwyddiad mawr fod wedi’i ddatgan yn gynharach.

Mae mwy na 220,000 o bobl wedi cael gorchymyn i adael eu cartrefi yn Ffrainc a Sbaen.

Mae'r awdurdodau yn Ffrainc wedi gorchymyn i bron i 60,000 o bobl adael ardaloedd ger Bordeaux, gyda thua 200,000 wedi cael eu symud o ranbarthau Gironde a Landes yn ne-orllewin y wlad.

Mae Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, wedi galw ar y fyddin i gynorthwyo.

Yn Sbaen, mae swyddogion wedi rhybuddio bod tân ger Madrid y tu hwnt i allu diffoddwyr tân i’w reoli ar hyn o bryd, ar ôl i dri thân i’r gorllewin o’r brifddinas uno’n un tân mawr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.