Heddluoedd a gwasanaethau tân 'heb eu diogelu'n ddigonol rhag ymosodiadau seibr'
Nid yw heddluoedd a gwasanaethau tân ac achub wedi'u diogelu'n ddigonol rhag ymosodiadau seibr oherwydd eu dibyniaeth ar systemau cyfrifiadurol hen ffasiwn, yn ôl adroddiad newydd.
Daw'r canfyddiadau wythnosau ar ôl i Heddlu Dyfed-Powys gadarnhau eu bod wedi dioddef ymosodiad seibr a amharodd ar rai o'u systemau nad ydynt yn ymwneud ag argyfyngau.
Yn ôl Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS), nid yw rhai gwasanaethau brys yn gwneud digon i atal camgymeriadau gan staff, allai eu gwneud yn agored i ymosodiadau.
Ymwelodd yr arolygwyr â thri o luoedd yr heddlu a thri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru a Lloegr, yn rhan o'u hymchwiliad.
Dyw'r sefydliadau hynny ddim wedi eu henwi, a does dim i awgrymu iddyn nhw ymweld â Heddlu Dyfed-Powys.
Ym mis Medi, cadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys fod digwyddiad seibr ar 14 Medi wedi amharu ar rai o'u systemau.
Roedd gwasanaethau cysylltu â'r heddlu ar-lein a thrwy e-bost wedi bod yn segur am gyfnod, ond cafodd y gwasanaethau hynny eu hadfer.
Dywedodd yr heddlu nad oedd y digwyddiad wedi effeithio ar eu gallu i ymateb i argyfyngau, gyda gwasanaethau 999 a 101 yn parhau i weithredu fel yr arfer.
Ar 25 Medi, dywedodd Heddlu Dyfed-Powys nad oedd tystiolaeth bod gwybodaeth bersonol aelodau'r cyhoedd wedi'i chyrchu na'i pheryglu.
Ond roedd ymchwiliad yn parhau i weld a oedd gwybodaeth yn ymwneud â swyddogion a staff wedi'i pheryglu.
Nid yw'r adroddiad newydd yn cysylltu'r digwyddiad yn Heddlu Dyfed-Powys â'r gwendidau penodol sydd wedi ei nodi gan yr arolygwyr.
'Hen ffasiwn'
Yn ôl yr adroddiad, roedd arweinwyr yr heddlu a'r gwasanaethau tân yn ystyried systemau cyfrifiadurol hen ffasiwn fel y risg strategol fwyaf i'w diogelwch seibr.
Dywedodd Michelle Skeer o'r arolygiaeth fod angen moderneiddio systemau technoleg gwybodaeth ar frys.
"Mae'n rhaid rhoi blaenoriaeth i foderneiddio technoleg gwybodaeth ar draws y ddau wasanaeth," meddai.
"Roedd pob un o'r sefydliadau a arolygwyd gennym yn dibynnu ar systemau hen ffasiwn i ryw raddau."
Daeth arolygwyr i'r casgliad hefyd fod defnyddio contractwyr technoleg allanol yn creu risgiau ychwanegol, yn enwedig pan fyddant yn cadw gwybodaeth sensitif.
Roedd rhai systemau wrth gefn, a oedd wedi'u cynllunio i adfer gwasanaethau ar ôl ymosodiad seibr, hefyd yn anfoddhaol.
Roedd diffyg hyfforddiant, rheolaeth wael ar gyfrineiriau a methiant i ddefnyddio mesurau diogelwch modern, fel dilysu aml-ffactor, ymhlith y problemau a gafodd eu nodi.
Daeth yr arolygwyr o hyd i wendidau yn y trefniadau diogelwch ar gyfer staff sy'n dechrau swyddi newydd, yn symud rhwng swyddi neu'n gadael sefydliadau.
Yn ôl yr adroddiad, nid oedd rhai uwch arweinwyr yn ystyried diogelwch seibr yn rhan o'u penderfyniadau gweithredol bob dydd, gan arwain at flaenoriaethu buddsoddiad mewn meysydd eraill.
Mae'r adroddiad yn galw am safonau sylfaenol o ddiogelwch seibr ar draws yr holl wasanaethau, gwell goruchwyliaeth o gontractwyr allanol a chanolfan genedlaethol ar gyfer rheoli technoleg ddigidol yn y gwasanaethau tân.
