Heddlu’n lansio ymchwiliad llofruddiaeth wedi anhrefn ym Mhont-y-pŵl

Roedd Anthony “Tony” Jones o Aberhonddu yn 56 oed
Anthony Thomas

Mae Heddlu Gwent wedi lansio ymchwiliad llofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn 56 oed ar ôl digwyddiad o anhrefn treisgar ger Pont-y-pŵl nos Iau.

Mae’r heddlu wedi cadarnhau mai Anthony “Tony” Jones o Aberhonddu oedd y dyn fu farw.

Cafodd swyddogion eu galw i adroddiad o anhrefn treisgar yn ymwneud â grŵp o ddynion ar Mill Street ym Mhontnewynydd am tua 19:15 nos Iau, 6 Awst.

Cafodd Mr Jones ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau oedd yn peryglu ei fywyd, ond mae’r heddlu bellach wedi cadarnhau ei fod wedi marw.

Mae swyddogion arbenigol yn cefnogi ei deulu.

Mae saith dyn, 31, 39, 40, 45, 59, 61 a 73 oed, wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Mae’r dynion i gyd yn parhau yn nalfa’r heddlu.

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Laura Bartley, sy’n arwain yr ymchwiliad: “Rydym yn cydnabod y bydd adroddiadau o’r natur yma yn peri pryder yn ein cymuned, ond mae gennym swyddogion yn gweithio ddydd a nos yn cynnal ymholiadau fel rhan o’r ymchwiliad.

“Rydym yn ceisio cadarnhau symudiadau’r rhai oedd ynghlwm â’r digwyddiad cyn ac ar ôl yr anhrefn, ac rydym yn gofyn i unrhyw un oedd yn gyrru ar hyd ffyrdd yr ardaloedd cyfagos rhwng 18:00 a 21:00 ddydd Iau wirio unrhyw luniau dashcam sydd ganddyn nhw.”

 Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2600255536. 

Mae modd cysylltu â Heddlu Gwent drwy ffonio 101, drwy eu gwefan neu drwy gyfryngau cymdeithasol. Mae modd hefyd rhoi gwybodaeth yn ddienw i Crimestoppers.



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.