Y Fonesig Siân Phillips i gymryd cam yn ôl o gynyrchiadau llwyfan mawr

Y Fonesig Sian Phillips

Fe fydd y Fonesig Siân Phillips yn cymryd cam yn ôl o'r llwyfan ar ôl wynebu anawsterau gyda'i chof yn ystod ymarferion. 

Mae'r actores 93 oed wedi gwneud y penderfyniad ar ôl wynebu trafferthion wrth gofio ei llinellau tra'n paratoi ar gyfer ei chynhyrchiad diweddaraf yn ôl papur newydd The Times. 

Ychwanegodd y byddai'n parhau i berfformio mewn prosiectau llai, gan gynnwys cynhyrchiad gyda'r Welsh National Theatre y flwyddyn nesaf. 

Fe ddywedodd Ms Phillips wrth The Times ei bod wedi penderfynu rhoi'r gorau i berfformio mewn cynyrchiadau llwyfan mawr ar ôl wynebu trafferth wrth gofio ei llinellau ar gyfer Atonement yn gynharach eleni. 

Cafodd ei geni yn Sir Gâr yn 1933, gan gael ei magu yn siarad Cymraeg cyn mynd ymlaen i ddysgu Saesneg drwy wrando ar y radio. 

Dechreuodd berfformio fel plentyn, gan ymddangos ar y radio, cyn mynd ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Cymru ac ennill ysgoloriaeth yn ddiweddarach i'r Academi Frenhinol ar gyfer Celfyddydau Dramatig.

Roedd hefyd yn gyflwynydd a darllenydd newyddion i BBC Cymru. 

Mae Ms Phillips wedi ymddangos mewn cynyrchiadau gan gynnwys Doctor Who, Calendar Girls a Dune. 

Enillodd wobr BAFTA am ei phortread o Livia yn I, Claudius gan dderbyn Gwobr Tony am chwarae y brif rôl yn Marlene. 

Cafodd ei anrhydedd gyda'r CBE yn y flwyddyn 2000 am ei chyfraniad i fyd y ddrama, ac yna ei gwneud yn Fonesig yn 2016.



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.