Caerdydd i gynnal Eisteddfod Genedlaethol 2028
Mae trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi mai Caerdydd fydd cartref y Brifwyl yn 2028, wrth i’r paratoadau ar gyfer ei dychweliad i’r brifddinas ddechrau fis nesaf.
Cafodd y cyhoeddiad ei wneud ar Faes Eisteddfod y Garreg Las ddydd Sadwrn, wrth i ŵyl eleni ddirwyn i ben.
Bydd Eisteddfod Genedlaethol 2028 yn cael ei chynnal yn ardal Caerdydd rhwng 5 a 12 Awst, gan nodi’r tro cyntaf i’r brifddinas gynnal yr ŵyl ers degawd.
Bydd y gwaith o baratoi yn dechrau gyda chyfarfod cyhoeddus yng Nghanolfan Gelfyddydau y Chapter yn ardal Treganna o Gaerdydd, am 18:30 nos Fercher 9 Medi.
Bwriad y cyfarfod yw rhoi cyfle i bobl leol ddangos eu cefnogaeth, gwirfoddoli ac ymuno â’r gwaith o drefnu’r ŵyl a’r prosiect cymunedol fydd yn arwain ati.
Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, fod y trefnwyr yn “edrych ymlaen yn fawr” at ddechrau’r gwaith yng Nghaerdydd ac "adeiladu’r cyffro dros y ddwy flynedd nesaf.
“Mae’n wych gwybod bod cymaint o bobl ar draws y dalgylch yn barod i chwarae eu rhan, ac i’n helpu i greu wythnos arbennig a phrosiect cofiadwy pan fydd yr Eisteddfod yn dychwelyd i’r ardal,” meddai.
Ychwanegodd fod yr Eisteddfod am ddenu pobl o amrywiaeth o gefndiroedd, diddordebau ac arbenigeddau i gymryd rhan yn y gwaith.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu rhai o dîm Eisteddfod 2018 yn ôl atom, ac at ddenu criw newydd o bobl i ymuno â ni dros y misoedd nesaf.
“Mae cyfle i bawb gyfrannu, boed hynny drwy weithio gyda ni yn y gymuned neu drwy helpu i greu’r ŵyl ei hun.”
‘Hynod falch’
Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Chris Weaver, ei fod yn “hynod falch” y bydd yr Eisteddfod yn dychwelyd i’r ddinas.
“Yr Eisteddfod Genedlaethol yw’r dathliad mwyaf a phwysicaf o’r Gymraeg a diwylliant Cymreig yn ein calendr cenedlaethol,” meddai.
“Mae gan Gaerdydd hanes balch o gynnal digwyddiadau mawr, ac edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt ar gyfer yr hyn sy’n siŵr o fod yn Eisteddfod gofiadwy ac ysbrydoledig.”
Bydd enwebiadau ar gyfer swyddogion Pwyllgor Gwaith Eisteddfod 2028 yn agor yr wythnos nesaf.
Bydd modd ymgeisio neu enwebu pobl ar gyfer swyddi gan gynnwys Cadeirydd, Is-gadeirydd Strategol, Is-gadeirydd Diwylliannol, Cadeirydd y Gronfa Leol ac Ysgrifennydd y Pwyllgor Gwaith.
Bydd y cyfarfod cyhoeddus ym mis Medi yn cael ei gynnal yn Gymraeg, gyda gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael.
Dywedodd yr Eisteddfod ei bod yn arbennig o awyddus i annog dysgwyr a phobl sydd ar ddechrau eu taith gyda’r Gymraeg i ymuno â’r pwyllgorau, gan ddefnyddio’r cyfnod cyn 2028 fel cyfle i ddefnyddio ac ymarfer yr iaith.