Eisteddfod y Garreg Las: Ydi Aberteifi wedi elwa?
Eisteddfod y Garreg Las: Ydi Aberteifi wedi elwa?
Mae’r Eisteddfod wedi arwain at fwy o bobl yn ymweld ag Aberteifi o’i gymharu â llynedd, yn ôl ystadegau.
Y dref agosaf at Faes Eisteddfod y Garreg Las yn Llantwd eleni yw Aberteifi yn ne Ceredigion.
Yn ôl un ysgrif hanesyddol, ym muriau Castell y dref cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf dan nawdd yr Arglwydd Rhys, 850 mlynedd yn ôl yn 1176.
Yn ôl data ymwelwyr gan Gyngor Sir Ceredigion, mae’r dref wedi gweld 9% yn fwy o bobl yn ymweld â hi o’i gymharu â’r un wythnos yn Awst 2025, gyda 11% o’r rheiny yn ymwelwyr newydd.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd y Cynghorydd Sir dros Ward Aberporth a'r Ferwig, Clive Davies, fod y dref wedi "paratoi sawl peth i neud yn siŵr ein bod ni'n tynnu gymaint o bobl lawr i'r dre' â phosib."
"Mae dinasyddion a busnesau'r dref wedi 'neud job gwych o harddu'r dre' i ddenu pobl mewn i'r dre'. Hefyd, mae 'na fws wedi bod yn rhedeg am ddim o Lantwd i'r dre' a nôl.
"Yn ychwanegol, cafodd map newydd ei wneud o'r dre' a chynigion newydd gan siopau annibynnol y dre'.
"Ni'n gobeithio mas o hyna i gyd ein bod ni wedi ca'l yr effaith o fwy o bobl yn y dre' ac o'r ystadegau, mae 9% yn fwy o bobl wedi dod i'r dre' yn yr wythnos yma na' Awst 2025."
Ychwanegodd mai'r "gobaith yw fod pobl nawr yn gw'bod am dre' Aberteifi a dychwelyd i'r dre'."
Dywedodd Cyd-berchennog siop Gymraeg Awen Teifi, Geraint James wrth Newyddion S4C fod y siop yn Aberteifi ac ar y maes “wedi bod yn fishi dros ben.”
Ychwanegodd fod “lot fawr o bobl yn dod mewn a falle'n ca'l ryw hanner diwrnod neu diwrnod bant o'r maes a chrwydro mewn i'r dre.”
Eleni, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ariannu ‘Bws Yr Arglwydd Rhys’ i gludo Eisteddfodwyr o Faes yr Eisteddfod i dref Aberteifi.
“Dwi ddim wedi cael cyfle i fod yn y siop ers wythnos, dwi fan hyn ar y maes yn Llantwd, ond, na, ma'r merched yn gweithio yn y siop wedi bod yn fishi dros ben.
“Mae’n ca’l effaith bositif iawn iawn. Lot fowr iawn o bobol yn dod mewn i'r dre ac i'r ardal hefyd yn ehangach nag Aberteifi.”
Yn ôl perchennog becws Crwst, Osian Jones, mae wythnos Eisteddfod y Garreg Las “wedi bod yn immense.”
“Fel busnes ni wastad yn fishi ti'bod dros y haf ni wastad yn fishi a ma'r wythnos ma' jyst wedi bod yn immense, ni'n flat out a ie ma' wedi bod yn wythnos grêt i Aberteifi a'r busnes sy lleol dwi'n siŵr.
“Achos bod e mor agos ti'bod ma' fe'n fel chi'n gallu gweld dros y dre i gyd ma' fflagiau ti'bod seins brilliant so na ma' fe'n brilliant i weld a ma' buzz mawr yn y dre.”
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd perchennog siop ‘U Melt Me’, Becky Jayre, “mae cael pawb yn ymweld â’r dref ac ar y stryd fawr hefyd yn anhygoel.”
Mae gan y fusnes stondin ar Faes yr Eisteddfod ac ar ôl cynhyrchu clipiau gwallt aeth yn viral ddechrau’r wythnos, mae Becky wedi sefydlu busnes newydd ‘Claw Clip Cymru’.
“Mae’n bwysig iawn i ni fel siop annibynnol fod gyda ni hunaniaeth lleol a’r mwyaf allwn ni wneud i ddangos ein bod ni yn Gymry, y gorau.”
Mae oriel Canfas yn Aberteifi yn noddi y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain ar gyfer Eisteddfod y Garreg Las ac yn ôl y perchennog, James Horan, mae’r nifer ymwelwyr wedi bod yn “anhygoel.”
“Mae’r nifer o ymwelwyr, yr awyrgylch, y vibe yn y dref, anhygoel. Chi’n gweld nifer o bobl ar y strydoedd ac yn dod i’r oriel i weld ein harddangosfa o dros 30 o gyn-enillwyr y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain.”
“Wnaeth fy mhartner ac innau benderfynnu llynedd ein bod ni am noddi’r Fedal Aur am Gelfyddyd Gain nid yn unig i godi proffil Oriel Canfas ond hefyd i dynnu ychydig o’r sylw oddi wrth faes yr Eisteddfod ac i Aberteifi.
“Ni’n hoff o feddwl am ein tref fel canolbwynt diwylliant Gorllewin Cymru.”
Dywedodd perchennog siop ddillad syrffio, Tonnau, Ben Robbins, ei bod wedi bod yn “rili brysur” yn eu stondin yn Llantwd a’u siop yn nhref Aberteifi.
"Mae stondin 'da ni lan yn yr Eisteddfod yn Llantwd a dwi wedi bod yn rili brysur iawn yn Llantwd ac yn y dref," meddai wrth Newyddion S4C.
“Dwi’n gweld lot o excitement - pobl mewn bore ‘ma jesd i gael crys tonnau ac maen yn cael hwyl a sbri lan yn yr ŵyl.”