Infantino yn gwadu honiadau fod UEFA wedi gwneud taliad diswyddo i'w gariad honedig
Fe gafodd cariad honedig Gianni Infantino daliad diswyddo gan UEFA am eu perthynas tra'r oedd yn Ysgrifennydd Cyffredinol y corff, yn ôl ymchwiliad gan y Daily Telegraph.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywydd FIFS fod Infantino "yn gwadu'r honiadau hyn yn gryf".
Roedd Infantino yn Ysgrifennydd Cyffredinol i UEFA, corff llywodraethu pêl-droed Ewrop, rhwng 2009 a 2016, ac fe wnaeth y corff ryddhau datganiad yn cadarnhau fod "taliad diswyddo wedi ei wneud i'r unigolyn dan sylw."
Daw'r honiadau wrth i Infantino frwydro am ei ddyfodol fel Llywydd FIFA wedi ei gynlluniau i werthu elfennau o gystadlaethau i fuddsoddwyr preifat.
Dywed y Daily Telegraph fod UEFA wedi talu swm chwe ffigwr i ddynes, a oedd yn honedig yn cael perthynas ag Infantino, sy'n briod, yn ystod ei amser gyda chorff llywodraethu pêl-droed Ewrop.
Fe gadarnhaodd UEFA fod taliad wedi'i wneud i'r ddynes dan sylw, ac eu bod yn talu am y ffioedd iddi gwblhau cwrs meistr mewn ysgol fusnes leol.
Ychwanegodd fod yr holl daliadau wedi eu gwneud yn unol â rheoliadau ar y pryd, ond bod y rheoliadau hynny wedi'u tynhau ers hynny ac yn "adlewyrchu'r rhai sydd i'w cael mewn sefydliad modern, proffil uchel".
Dywedodd UEFA dros y penwythnos eu bod wedi "colli hyder" yn arweinyddiaeth Infantino.
Roedd Cymru ymhlith gwledydd UEFA a wnaeth hynny.
Mae Infantino wedi ymddiheuro am y "camgymeriadau" yn y cynigion dadleuol, ond ni wnaeth ymddiswyddo ar ôl derbyn cefnogaeth gan uwch-swyddogion mewn cyfarfod ym Morocco ddydd Mercher.
Cafodd Infantino ei benodi yn Llywydd FIFA yn 2016.
Mae timau Ewrop wedi bygwth boicotio digwyddiadau FIFA er gwaethaf i'r cynlluniau gael eu diddymu, gan ddweud nad yw rhai amodau penodol wedi eu bodloni.