Cyflwynydd S4C sy’n byw gyda MS yn ennill Gwobr Llwyd o’r Bryn

Daf Wyn

Mae’r cyflwynydd teledu Daf Wyn, sydd wedi siarad yn agored am ei brofiad o fyw gyda sglerosis ymledol (MS), wedi ennill Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae’r wobr, sy’n cael ei hadnabod fel Rhuban Glas y Llefarwyr, yn un o brif wobrau llwyfan yr Eisteddfod. 

Mae’n gystadleuaeth llefaru unigol i bobl 21 oed a throsodd, gyda’r cystadleuwyr yn cyflwyno darn gosod yn ogystal â deunydd o’u dewis eu hunain. 

Mae Daf Wyn yn wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C drwy ei waith fel cyflwynydd, gan gynnwys ar Prynhawn Da a Heno.

Cafodd ddiagnosis o MS yn 30 oed yn 2021, ar ôl iddo fynd at y meddyg yn dilyn cyfnodau pan oedd yn colli ei leferydd, gan gynnwys tra’r oedd yn cyflwyno’n fyw ar S4C.

Mae sglerosis ymledol yn gyflwr sy’n effeithio ar yr ymennydd a’r cefn, ac mae’n digwydd pan fydd y system imiwnedd yn ymosod ar nerfau, gan amharu ar y negeseuon sy’n teithio rhwng yr ymennydd a gwahanol rannau o’r corff. 

Gall yr effeithiau amrywio’n sylweddol o un person i’r llall. Ymhlith y symptomau posib mae blinder, diffyg teimlad yn ogystal ag anawsterau gyda’r cof a’r meddwl. 

Gall MS hefyd effeithio ar allu rhai pobl i ganolbwyntio, prosesu gwybodaeth, dod o hyd i’r gair cywir neu gofio pethau. 

Yn ôl cymdeithas yr MS, mae rhwng pedwar a saith o bob 10 o bobl sy’n byw gyda’r cyflwr yn profi rhyw fath o newid i’w cof neu eu gallu i feddwl, er bod yr effeithiau fel arfer yn ysgafn neu’n gymedrol ac nad yw pawb yn eu profi. 

Mae ennill Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn yn ychwanegu at restr Daf Wyn o gyflawniadau fel cyflwynydd a pherfformiwr, wedi iddo barhau â’i yrfa ym myd darlledu ers cael ei ddiagnosis.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.