Heddlu'n cadarnhau mai merch fach oedd babi y cafwyd hyd i'w chorff ar lan y Fenai
Heddlu'n cadarnhau mai merch fach oedd babi y cafwyd hyd i'w chorff ar lan y Fenai
Mae archwiliad post-mortem wedi cadarnhau mai merch fach oedd babi y cafwyd hyd i’w chorff ar lan y Fenai ddydd Sul.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dweud bod yr arwyddion cychwynnol yn awgrymu y gallai corff y babi fod wedi bod yn y dŵr ers rhai wythnosau.
Mae’r heddlu’n cadw meddwl agored ynglŷn â ble aeth y babi i’r dŵr, ac mae arbenigwyr ar y llanw ac eigioneg yn helpu swyddogion i geisio deall sut y daeth y corff i’r ardal lle cafodd ei ddarganfod.
Mae profion pellach hefyd yn cael eu cynnal, gan gynnwys profion i geisio canfod ethnigrwydd y babi.
Cafodd swyddogion eu galw ar ôl i aelod o’r cyhoedd ddod o hyd i’r corff ger Ffordd Siliwen ym Mangor, ar lan y Fenai, ychydig cyn 17:00 ddydd Sul, 27 Medi.
Mae ymholiadau o dŷ i dŷ yn cael eu cynnal yn yr ardal ac mae swyddogion hefyd yn edrych ar luniau CCTV.
Apêl eto i fam y babi
Dywedodd yr Uwcharolygydd Llinos Davies: “Yn dilyn darganfyddiad trasig o gorff babi ym Mangor ar ddydd Sul, y 27ain o Fedi, mae post mortem bellach wedi’i gwblhau.
“Rydym nawr yn gwybod mai merch oedd y babi bach.
“Rydym yn deall y gall y fam fod yn ofnus o ddod ymlaen ond rydym yn ei hannog i gysylltu â ni. Hoffwn roi sicrwydd iddi mai ei lles a’i diogelwch yw ein pryder pennaf.
“Dylai unrhyw un sydd â phryderon am ferch neu fenyw rydych chi’n meddwl y gallai fod wedi bod yn feichiog neu y mae ei hymddygiad wedi bod yn anarferol neu allan o gymeriad yn ystod y misoedd diwethaf, gan gynnwys tynnu’n ôl o ffrindiau, teulu neu gysylltiadau cymdeithasol, gysylltu â ni.
“Plis gwnewch y peth iawn i sicrhau bod y fam hon yn cael y cymorth iechyd sydd ei angen arni."
Bydd pob enw y maen nhw'n ei dderbyn yn cael ei drin "hefo’r disgresiwn mwyaf," medden nhw.
'Diogel'
Dywedodd yr heddlu fod yr apêl gyntaf ganddyn nhw a’r gwasanaeth iechyd wedi cael ymateb cadarnhaol, gyda nifer o bobl yn cysylltu â gwybodaeth berthnasol.
Roedd rhai wedi cysylltu gan gredu eu bod yn gwybod pwy oedd y fam, ond nid yw hi wedi cael ei hadnabod hyd yma.
Dywedodd Fiona Giraud, Cyfarwyddwr Bydwreigiaeth a Gwasanaethau Merched Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, mai’r fam yw ei blaenoriaeth o hyd.
Wrth siarad yn uniongyrchol â hi, dywedodd: “Ein prif bryder o hyd yw eich iechyd, diogelwch a lles.
“Efallai eich bod yn teimlo nad oes gennych unrhyw le i droi, neu na allwch siarad ag unrhyw un am yr hyn sydd wedi digwydd. Peidiwch â theimlo bod yn rhaid i chi wynebu hyn ar eich pen eich hun.
“Nid ydym eto yn gwybod yr holl amgylchiadau sy’n ymwneud â marwolaeth eich babi, ond yr hyn sy’n bwysig yw ein bod yn dod o hyd i chi, yn gwneud yn siŵr eich bod yn ddiogel, ac yn sicrhau eich bod yn cael unrhyw sylw meddygol a chymorth y gallai fod ei angen arnoch.
“Rwy’n gofyn i chi’n bersonol, plis cymerwch y cam cyntaf a chysylltwch â ni. Mae yna bobl i’ch helpu chi.”