Heddlu Dyfed-Powys yn ymestyn gwasanaeth atal troseddu i golegau a’r chweched dosbarth
Heddlu Dyfed-Powys yn ymestyn gwasanaeth atal troseddu i golegau a’r chweched dosbarth
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymestyn gwasanaeth sy'n ceisio atal troseddu ymhlith pobl ifanc i'r chweched dosbarth a cholegau addysg bellach.
Fe fydd swyddog penodol ym mhob un o'r pedwar coleg chweched dosbarth yn ardal y llu er mwyn ceisio lleihau troseddu ymhlith pobl ifanc.
Mae'r llu wedi penderfynu ariannu'r gwasanaeth mewn ysgolion a cholegau addysg bellach ei hun yn bennaf, ar ôl i'r arian oedd yn dod gan Lywodraeth Cymru gael ei dorri ddwy flynedd yn ôl.
Dywedodd y llywodraeth fod £1 miliwn wedi cael ei ddarparu eleni i ariannu rhaglen i "gryfhau’r berthynas rhwng ysgolion, plismona cymdogaeth a chymunedau lleol" ar draws heddluoedd Cymru.
Ond dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, fod ymosodiadau difrifol ar athrawon mewn dwy ysgol uwchradd yn ardal y llu wedi "cael effaith ac ysgogi ni efallai i ail edrych ar y gwasanaeth" er mwyn buddsoddi yn y maes.
Cafodd dwy athrawes a disgybl eu trywanu gan ferch 13 oed yn Ysgol Dyffryn Aman ym mis Ebrill 2024, ac fe gafodd athrawes ei thrywanu gan fachgen 16 oed yn Ysgol Aberdaugleddau ym mis Chwefror eleni.
Mae'r llu eisoes yn ariannu gwasanaeth mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, ond fe fydd hynny'n cael ei ymestyn nawr i addysg bellach.
Clywodd y lansiad ym mhencadlys yr heddlu yng Nghaerfyrddin fod y llu wedi adnabod 95 o blant yn Sir Gaerfyrddin oedd "angen ymyrraeth", bod 117 angen cefnogaeth yn Sir Benfro, ynghyd â dros 60 yng Ngheredigion.
Yn ôl Mr Llywelyn, mae angen "addysgu" pobl ifanc am sut maen nhw'n trin cyfoedion a phobl yn y gymdeithas ac mae'r "we yn effeithio ar bobl ifanc".
Dywedodd ei fod yn pryderu am ddylanwad y we a chyfryngau cymdeithasol a bod "gwaith i wneud er mwyn diogelu pobl ifanc yn y maes yma."
"Bwriad pwrpasol y buddsoddiad yw atal pobl ifanc rhag mynd mewn i'r system gyfiawnder yn ardal Dyfed Powys a'r niwed sydd yn cael ei achosi pan mae pobl yn mynd i drafferth."
"Fe fydd swyddogion yn gweithio yn bennaf yn yr ysgolion cynradd ac uwchradd, ac yn y colegau fe fydd gyda ni staff sydd yn cydweithio gyda swyddogion diogelwch y colegau a chydweithio gyda thimau plismona bro lleol. Mae'r cyswllt hynny yn hynod o bwysig ar gyfer y gwaith atal trosedd."
Roedd nifer o bobl ifanc yn y lansiad yng Nghaerfyrddin.
Dywedodd Dewi, sy'n 15 oed ac o Ysgol Bro Teifi, fod swyddogion yr heddlu eisoes wedi rhoi cyngor i ddisgyblion yn yr ysgol ar bynciau oedd yn peri pryder.
"Mae un cwnstabl yn dod mewn aton ni falle dwywaith bob blwyddyn a ni'n son am bynciau fel sectsio, cyffuriau ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol. Fi'n credu bod e'n fuddiol iawn i'r disgyblion."
Mae Betsan, sy'n 17 oed ac o Ysgol Bro Hyddgen, yn cefnogi ymestyn y gwasanaeth i'r chweched dosbarth am fod "plant yn troi at dorri'r gyfraith."
"Does ganddyn nhw ddim byd arall i wneud. Dw i yn meddwl bod e'n bwysig iawn i stopio plant rhag torri'r gyfraith. Dw i wedi gweld lot o ffrindiau fi yn troi at gyffuriau ac mae wedi bod yn anodd i weld achos does ganddyn nhw ddim byd i wneud ac maen nhw yn troi at gyffuriau. Dw i ddim yn credu bod nhw'n gwybod pwy mor beryglus ydy o."
Bethan James yw rheolwr plant a phobl ifanc Heddlu Dyfed-Powys.
"Ni yn yr ysgolion yn barod ond y gap i ni oedd y colegau. Ni eisiau bod yn flaenllaw yn rhoi gwybodaeth gyfredol a chywir i blant a phobl ifanc. Mae llawer o gam wybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae'n ddyletswydd i ni roi'r gwybodaeth gywir a bod pobl ifanc yn gwybod ble i ddod pan mae angen help a chefnogaeth."
"Yn amlwg, mae cyffuriau yn broblem. Mae vapes ac mae alcohol yn parhau yn broblem yng nghefn gwlad Cymru. Mae'n bwysig bod nhw'n cael y wybodaeth gywir er mwyn deall beth sydd yn drosedd. Mae trais yn erbyn menywod yn rhywbeth sydd yn stori ar y cyfryngau cymdeithasol yn feunyddiol. Mae'r plant yn gweld e ac eisiau trafod."
Dywedodd fod addysgu dynion ifanc am agweddau iach tuag at fenywod, ac am beryglon misogynedd (misogyny), yn rhan o'r cwricwlwm.
"Mae'n rhywbeth ni'n trafod yn yr ysgolion a fyddwn ni yn y colegau. Yn fwy na dim, mae'n bwysig cael y sgyrsiau gyda nhw i weld beth maen nhw yn meddwl yw'r broblem. Mae e yn broblem ac mae gymaint o wybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol sydd yn gallu tynnu unigolyn bregus mewn i fyd tywyll iawn felly os gallwn ni y llais yn hwnna i gyd gobeithio gallwn ni helpu."
Dywedodd mai'r nod oedd ymyrryd yn gynnar cyn i bobl ifanc gael cofnod troseddol.
"I ni, ni'n teimlo bod systemau gyda ni nawr ble ni'n gallu adnabod pethau yn fwy cynnar a chynnig yr ymyrraeth i bobl ifanc cyn ei fod e'n broblem i'n cymunedau."
£1 miliwn i raglen ymgysylltu
Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni ymrwymo i sicrhau bod pob dysgwr yn teimlo'n ddiogel ac wedi darparu £1 miliwn eleni i gefnogi rhaglen ymgysylltu rhwng yr heddlu ac ysgolion ar draws pob un o'r pedair ardal heddlu.
"Mae’r rhaglen yn cryfhau’r berthynas rhwng ysgolion, plismona cymdogaeth a chymunedau lleol gyda ffocws ar ddiogelu, niwed ar-lein, ymddygiad, cydlyniant cymunedol ac ymyrraeth gynnar.
"Mae disgwyl i golegau gael polisïau, gweithdrefnau a hyfforddiant staff cadarn ar waith i nodi ac ymateb i bryderon diogelu, gan weithio’n agos gyda phartneriaid allweddol.”