Heddlu Dyfed-Powys yn diswyddo swyddog am gamymddwyn difrifol
Mae plismon oedd wedi ei leoli yn Llanelli wedi cael ei ddiswyddo ar unwaith ar ôl i banel ddyfarnu ei fod wedi camymddwyn yn ddifrifol.
Cafodd PC Rhodri Davies ei ddiswyddo o Heddlu Dyfed-Powys yn dilyn gwrandawiad camymddwyn cyhoeddus ym mhencadlys y llu yn Llangynnwr, ger Caerfyrddin rhwng dydd Llun 19 Hydref a dydd Iau 22 Hydref.
Roedd y plismon yn wynebu honiadau ei fod wedi ceisio meithrin perthynas rywiol ac emosiynol â swyddog heddlu arall, er ei fod yn gwybod neu'n amau bod y swyddog wedi dioddef cam-drin domestig.
Cyfeiriwyd at y swyddog fel 'Tyst A' yn ystod y gwrandawiad.
Roedd honiadau hefyd fod y swyddog wedi dioddef ymddygiad rhywiol digroeso gan PC Davies.
Roedd honiadau pellach yn ymwneud â digwyddiad ym mis Hydref 2023, pan oedd PC Davies yn cymryd datganiad gan dyst mewn cysylltiad â digwyddiad o ddwyn o archfarchnad.
Yn ôl yr honiadau, roedd wedi gwneud sylwadau amhriodol wrth y tyst, y cyfeiriwyd ato fel 'Tyst B', ac wedi cadw rhif ffôn y tyst ar ei ddyfais bersonol er mwyn ceisio meithrin perthynas rywiol neu emosiynol.
Daeth y panel, dan gadeiryddiaeth Ian Arundale, i'r casgliad bod yr honiadau yn erbyn PC Davies wedi eu profi a'i fod wedi torri safonau ymddygiad proffesiynol yr heddlu.
Roedd y rhain yn cynnwys torri rheolau ynghylch bod yn onest, cadw gwybodaeth yn gyfrinachol, trin eraill â pharch, a pheidio ag ymddwyn mewn ffordd sy'n dwyn anfri ar yr heddlu.
Dyfarnodd y panel fod ei weithredoedd yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol a bod yn rhaid ei ddiswyddo ar unwaith.
Bydd ei enw bellach yn cael ei ychwanegu at restr wahardd Coleg Plismona Cymru a Lloegr, gan ei atal rhag dychwelyd i wasanaeth yr heddlu.
'Ymddygiad cwbl annerbyniol'
Wrth ymateb i'r penderfyniad, dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys, Gemma Morris, fod disgwyl i bob swyddog ac aelod o staff gynnal y safonau proffesiynol uchaf, boed ar ddyletswydd neu beidio.
“Roedd ymddygiad PC Rhodri Davies yn gwbl annerbyniol," meddai.
"Daeth y panel i’r casgliad bod yr honiadau yn ei erbyn wedi eu profi ac mae wedi cael ei ddiswyddo o’r llu.
“Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i fynd i’r afael ag unrhyw ymddygiad sydd ddim yn cyrraedd y safonau o ran gonestrwydd a phroffesiynoldeb rydyn ni’n eu disgwyl gan ein swyddogion a’n staff. Byddwn yn cymryd camau priodol lle bynnag y byddwn yn dod ar draws camymddwyn.
“Rwy’n canmol y tystion am eu dewrder wrth roi gwybod am ymddygiad PC Davies, ac am eu cryfder drwy gydol y broses o ymchwilio i’r camymddwyn, gan gynnwys rhoi tystiolaeth yn y gwrandawiad yr wythnos hon.”