Heddlu Dyfed-Powys yn destun ymchwiliad mewnol wedi gwrthdrawiad angheuol
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyfeirio eu hunain at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn dilyn gwrthdrawiad angheuol rhwng beic modur a char yn Sir Benfro'r mis hwn.
Bu farw Callum Hanson o Hwlffordd yn dilyn y gwrthdrawiad ar yr A4075 rhwng Pont Canaston a Yerbeston, ar 17 Mehefin.
Roedd yn gyrru beic modur Yamaha gwyn gyda menyw 22 oed yn teithio ar y cefn, pan fu mewn gwrthdrawiad gyda char Kia Sorrento llwyd.
Cafodd Callum Hanson a'r fenyw eu cludo i'r ysbyty, lle bu farw Mr Hanson yn ddiweddarach.
Mae’r llu bellach wedi rhyddhau datganiad yn dweud eu bod wedi cyfeirio eu hunain at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn dilyn y digwyddiad, oherwydd bod cerbyd heddlu yn yr ardal.
Dywedodd llefarydd o Heddlu Dyfed-Powys: “Roedd hyn er mwyn sicrhau tryloywder llawn ac mae’n ofyniad safonnol er mwyn sicrhau goruchwyliaeth annibynnol.
“Nid oes unrhyw awgrym bod cerbyd yr heddlu wedi ceisio ymlid neu bod unrhyw gyswllt rhwng y beic modur a cherbyd yr heddlu ar adeg y digwyddiad.
“Oherwydd hyn, mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu wedi cyfeirio'r mater yn ôl i Heddlu Dyfed-Powys ar gyfer ymchwiliad mewnol gan yr Adran Safonau Proffesiynol.
“Er bod yr Adran Safonau Proffesiynol yn cynnal eu hymholiadau, ni fyddai'n briodol gwneud sylwadau pellach ar y mater.
“Mae meddyliau Heddlu Dyfed-Powys yn parhau gyda theulu a ffrindiau Callum ar hyn o bryd, a byddem yn dal i ofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â'r heddlu.”
Llun: Callum Hanson (llun teulu)
