Ymchwilio i ddifrod troseddol ar safle hanesyddol ar Fynydd Hiraethog
Mae Tîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru'n ymchwilio i achos o ddifrod troseddol ar safle cynhanesyddol ar Fynydd Hiraethog.
Dywed yr heddlu fod cerbyd wedi gyrru dros heneb hynafol cynhanesyddol ger Tan y Foel.
Mae'r domen gladdu o'r Oes Efydd wedi'i diogelu o dan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 ac mae'r safle ger ffordd fach o Lansannan i Ryd-y-Bedd.
Mae ymchwiliad ar y cyd wedi'i lansio gyda CADW, ac mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw.
Dywedodd PC Dave Allen: “Mae'r tîm, ochr yn ochr â CADW, yn gweithio i ddiogelu'r henebion hyn ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
“Nid yn unig mae'r heneb o bwys cenedlaethol i'r gymuned archaeolegol, ond mae'n rhan o'n treftadaeth a dylid ei pharchu.
“Rydym yn awyddus i olrhain perchnogion unrhyw gerbydau a welwyd ar yr heneb ac rwy'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu.”
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gan ffonio 101 neu drwy wefan yr heddlu, gan ddefnyddio'r rhif cyfeirnod 26000484800.
