Llys yn clywed fod dyn a fu farw yn Llanelwy yn 'chwilio am drafferth'
Mae'r amddiffyniad mewn achos o lofruddio honedig ar Ddydd Nadolig yn Llanelwy wedi dweud bod y dyn a fu farw yn “chwilio am drafferth” ar fore'r digwyddiad.
Dywedodd Gordon Cole KC ar ran James Hughes, 67 oed, wrth y rheithgor fod Harry Turner, 68 oed, wedi cael ei “sbarduno gan alcohol” ac mai fo oedd yr ymosodwr.
Mae Mr Hughes wedi honni ei fod wedi taro Mr Turner ddwywaith gyda chefn ei law.
'Achos o ddial'
Ond yn ei araith gloi yn Llys y Goron Caernarfon, dywedodd John Hipkin KC ar ran yr erlyniad: “Nid achos o hunanamddiffyn yw hwn o gwbl. Mae’n achos o ddial neu ddysgu gwers.”
Dywedodd y bargyfreithiwr nad oedd Mr Hughes wedi dangos “unrhyw drugaredd” at Mr Turner.
Nid oedd yr erlyniad yn derbyn esboniad James Hughes fod ei gymydog yn fflatiau’r Hen Balas yn Llanelwy yn “beiriant dyrnu.”
Roedd gan Mr Turner “galon agored i niwed” ac fe gafodd ei ddisgrifio fel “dyn cwrtais a syml.”
Roedd wedi cwyno am sŵn oedd yn dod o fflat Mr Hughes.
Dangosodd recordiad sain o’i eiliadau olaf cyn yr ymosodiad honedig fod James Hughes wedi bod “mewn sefyllfa hollol ddominyddol.”
Eiliadau olaf
Wrth agor yr achos, fe wnaeth Mr Hipkin chwarae recordiad dictaffon o'r digwyddiad.
Dywedodd Mr Hughes, sydd bellach yn 67 oed ond yn 66 oed ar y pryd, wrth Mr Turner, oedd yn ei chael hi’n anodd anadlu: “Gewch chi farw gan nad wyf yn poeni.”
Roedd Mr Turner wedi pledio ar y diffynnydd i godi oddi arno.
Clywodd y rheithgor mai geiriau olaf Mr Turner oedd: “Alla i ddim.”
Mae Hughes yn gwadu llofruddiaeth a chyhuddiad amgen o ddynladdiad.
Mae disgwyl i'r rheithgor ymddeol i ystyried eu dyfarniadau ddydd Iau.
Dywedodd Mr Ustus Nicklin wrth yr aelodau o'r rheithgor: “Nid ydych chi o dan unrhyw bwysau amser.”
Llun: Harry Turner (Llun teulu)
