'Echrydus o dwym': Profiad Cymro o ymdopi gyda'r gwres eithafol yn Ffrainc
'Echrydus o dwym': Profiad Cymro o ymdopi gyda'r gwres eithafol yn Ffrainc
Mae rhybudd coch am wres eithafol mewn grym ar draws hanner gogleddol a de-orllewin Ffrainc ddydd Iau.
Mae’r gwasanaeth tywydd Météo-France yn disgrifio’r tywydd fel cyfnod "eithriadol" o wres ar draws y wlad.
Mae disgwyl cofnodi tymheredd o 42C ym Mharis ddydd Iau, a 40C neu’n uwch mewn nifer o ddinasoedd eraill.
Mae’r gwres wedi amharu’n sylweddol ar fywyd bob dydd, gyda bron i 2,000 o ysgolion wedi cau mewn ardaloedd sydd dan rybudd coch.
Mae’r newyddiadurwr chwaraeon, Illtud Dafydd, yn byw ym Mharis.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd ei bod yn “grasboeth” yn y ddinas.
“Mae dal yn echrydus o dwym, ma' bod tu fas yn weddol poenus,” meddai.
“Mae fe’n eithaf neis cael dod yma i’r swyddfa er mwyn gallu cael bach o air conditioning.
“Mae hi’n 40 gradd Celsius, felly dyw hi ddim yn gyfforddus."
Mae nifer o atyniadau’r ddinas, gan gynnwys y Tŵr Eiffel, wedi cau hefyd oherwydd y gwres eithafol.
“Amgueddfa’r Lourve sydd yr amgueddfa fwyaf poblogaidd y byd wedi cael ei gau.” meddai.
“Mae fe’n amharu ar bethau o ddydd i ddydd.”
Mae’r gwres wedi amharu’n sylweddol ar fywyd bob dydd, ychwanegodd:
“Ma' lot o ysgolion yn gofyn i rieni gadw eu plant nhw o’r ysgolion achos bod dim systemau air conditioning i gael o fewn y sefydliadau hynny.
“Felly mae fe wedi achosi lot o broblemau.”
Mae Llywodraeth Ffrainc hefyd wedi rhybuddio am gynnydd yn nifer yr achosion o foddi wrth i bobl geisio oeri mewn afonydd, llynnoedd a chamlesi.
Dywedodd Prif Weinidog Ffrainc fod 40 o bobl wedi boddi ers 18 Mehefin, gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn bobl ifanc.
Mae disgwyl i’r tywydd barhau’n boeth iawn yn ystod y dyddiau nesaf, er y gallai stormydd daro rhannau gorllewinol y wlad.