Gyrrwr beic modur 61 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad ar yr M4
Mae Heddlu Gwent yn apelio am dystion wedi i yrrwr beic modur farw mewn gwrthdrawiad yng Nghasnewydd.
Galwyd swyddogion i'r gwrthdrawiad ger cyffordd 24 o'r M4 am tua 16:10 ddydd Iau.
Aeth swyddogion i’r safle ynghyd â swyddogion o Wasanaeth Ambiwlans Cymru ac Ambiwlans Awyr Cymru.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng Audi Q8 glas a beic modur Triumph Trident gwyn.
Cafodd gyrrwr y beic modur – dyn 61 oed o Gasnewydd – ei gludo i’r ysbyty lle cyhoeddwyd ei fod wedi marw.
Mae ei deulu wedi cael gwybod ac maen nhw’n cael cymorth gan swyddogion sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol.
Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i ganfod amgylchiadau’r gwrthdrawiad.
Does neb wedi cael ei arestio.
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu sydd â lluniau camera cerbyd, i gysylltu â nhw gan ddefnyddio cyfeirnod 2600085541.
