Y gyfres ddrama Adolescence yn dod i'r brig yng ngwobrau Bafta
Mae'r gyfres ddrama Adolescence wedi creu hanes yng ngwobrau Bafta nos Sul, gan gipio'r prif wobrau.
Fe enillodd y ddrama Netflix am fachgen yn ei arddegau sy'n cael ei gyhuddo o drosedd ddifrifol bedair gwobr i gyd, sef y mwyaf a enillwyd gan un gyfres deledu yn y seremoni erioed.
Cafodd ei henwi fel y ddrama unigol orau, tra bod ei sêr Stephen Graham, Christine Tremarco ac Owen Cooper i gyd wedi ennill gwobrau.
Graham gafodd wobr y prif actor gorau, enillodd Tremarco wobr fel actores gefnogol orau ag fe gipiodd Cooper y wobr am yr actor cefnogol gorau.
Mae Graham, a gyd-ysgrifennodd y sgript gyda Jack Thorne, wedi ennill nifer o wobrau am ei berfformiad yn y gyfres, gan gynnwys Emmy a Golden Globe, ond nid oedd erioed wedi ennill Bafta.
Wrth siarad ar y llwyfan nos Sul, dywedodd: “Efallai y byddaf yn cymryd fy amser. Rwyf wedi cael fy enwebu wyth gwaith a dyma'r tro cyntaf i mi ennill.
“Bafta, mae hyn yn hyfryd.
“Pan oeddwn i’n blentyn, roeddwn i’n gwylio rhaglen deledu o’r enw Scully, wedi’i hysgrifennu gan Alan Bleasdale, ac roedd Drew Schofield yn wych ynddi ac roedd e’n byw gyferbyn â thŷ fy nain, felly dangosodd i mi y gallwn i fod ar y teledu.
“Fo oedd fy ysbrydoliaeth. Felly i unrhyw blentyn ifanc arall, waeth o ble rydych chi’n dod, mae unrhyw beth yn bosib.
“Dydyn ni ddim yn cloddio tyllau, dydyn ni ddim yn cloddio ffosydd, dydyn ni ddim yn achub bywydau, ond mae gennym ni’r cyfle i adrodd hanes y cyflwr dynol, ac mae gennym ni’r cyfrifoldeb i adrodd straeon hardd ac mae angen i ni barhau â hynny.”
Enillodd Celebrity Traitors y wobr y gyfres realaeth orau, yn ogystal â gwobr am yr eiliad gofiadwy, am fuddugoliaeth Alan Carr.
Wrth gasglu'r wobr, dywedodd y digrifwr: “Oeddwn i'n dda? Oeddwn i wir? Neu a oedd y sêr eraill yn dwp iawn?"