Newid hinsawdd yn gadael blas chwerw ar baned o de?

Lucy George

Mae newid hinsawdd yn cael effaith andwyol ar gynhyrchu te ar draws y byd yn ôl gwaith ymchwil newydd.

Mae ymchwil gan elusen Christian Aid yn awgrymu bod blas cyfarwydd te dan fygythiad oherwydd newid hinsawdd. 

Y gred yw y gallai fod yna flas mwy chwerw ar ein paned boblogaidd.

Mae un cynhyrchydd te yng Nghymru wedi rybuddio fod hyn yn cael effaith andwyol ar y cynnyrch.

Dywedodd Lucy George, sy'n rhedeg Peterston Tea, fferm de fach ger Caerdydd ac un o'r ffermydd te masnachol cyntaf yn y DU: “Mae yna ragweld tymhorau llai gyda gaeafau cynhesach, rhew hwyr sydyn, a phatrymau glaw afreolaidd.”

Mae hyn yn golygu y gall cyfnodau cynhesach gyflymu twf, tra gall glaw afreolaidd neu gyfnodau oer arafu twf ac effeithio ar strwythur y dail.

Ychwanegodd Lucy: “Mae'r cydbwysedd sy'n rhoi ei ddyfnder i de - siwgr, asidau amino, polyffenolau - wedi'i gysylltu'n agos ag amodau tyfu sefydlog.

“Pan mae'r sefydlogrwydd hwnnw yn cael ei golli, mae cysondeb yn llawer anoddach i'w gyflawni,” meddai.

Y gred yw bod 100 miliwn o baneidiau o de yn cael eu hyfed yn y DU bob dydd. 

Yng Nghymru, y gred yw bod dros hanner oedolion y wlad yn yfed tua thair paned y dydd.

Tywydd eithafol

Dywedodd Christian Aid y gallai tymereddau uwch a thywydd mwy eithafol sy'n gwaethygu mewn gwledydd fel Kenya, India a Sri Lanka wneud te yn fwy chwerw gyda blas llai cyson arno.

Fe fydd ffermwydd bach yn cael eu heffeithio fwyaf meddai'r elusen. Mae disgwyl hefyd iddynt gael eu heffeithio gan brisiau uwch gwrtaith a thanwydd o ganlyniad i'r rhyfel yn Iran.

Mae'r elusen yn galw am gamau i gefnogi ffermwyr, gan gynnwys datblygu planhigion te mwy gwydn a gwella dyfrhau a phlannu coed cysgodol i amddiffyn y llwyni. 

Maent hefyd yn galw am brisio teg ac arian i gynhyrchwyr roi mesurau ar waith i'w helpu i addasu i newid hinsawdd ac i amddiffyn gweithwyr. 

Mae'r adroddiad yn rhybuddio bod cynhyrchu te yn dibynnu ar amodau tymheredd a glawiad sefydlog, sydd bellach yn newid, gyda'r twf gorau o fewn ystod tymheredd gymharol gul o rhwng 13C a 30C a digon o law ond dim gormodedd.

Llun: Lucy George, Peterstone Tea

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.