Hantafeirws: Teithwyr mordaith yn dychwelyd i Brydain i hunan ynysu
Mae teithwyr o Brydain oedd wedi bod ar long lle'r oedd achosion o hantafeirws wedi dychwelyd adref i safle o fewn ysbyty lle byddan nhw yn hunan ynysu.
Nos Sul fe aeth awyren a nhw o'r Ynysoedd Dedwydd i faes awyr Manceinion.
Cafodd 20 o deithwyr Prydeinig eu symud i ynysu yn hen safle cwarantin Covid sydd yn Ysbyty Arrowe Park yng Nghilgwri, Glannau Merswy.
Mae un teithiwr o'r Almaen sydd yn byw ym Mhrydain ac un teithiwr o Siapan hefyd yn cael eu monitro yn Arrowe Park.
Fe gytunodd Llywodraeth y DU i ofalu am y teithiwr o Siapan ar gais llywodraeth y wlad.
Roedd mesurau caeth yn eu lle yn ystod y daith i Arrowe Park gyda phawb yn gorfod gwisgo mygydau wyneb.
O fewn cyfnod o 72 awr fe fydd y teithwyr yn cael eu hasesu a'u profi ar gyfer hantafeirws.
Mae gan y safle yn Arrowe Park fflatiau sydd gydag ystafelloedd gwely, ystafelloedd ymolchi, ceginau ac ystafell fyw.
Yn ôl prif weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Addysgu Prifysgol Cilgwri, fe fydd yna "wiriadau lles" yn digwydd.
"Does yna neb yn dod aton ni sydd wedi cael unrhyw symptomau.
"Does dim effaith ar yr ysbyty. Mae ein gwasanaethau yn rhedeg fel arfer ac fe ddylai cleifion barhau i ddod i'w hapwyntiadau," meddai Janelle Holmes.
Dywedodd os bydd y teithwyr yn datblygu symptomau y byddan nhw yn mynd i Ysbyty Prifysgol Frenhinol Lerpwl lle mae yna uned ar gyfer clefydau trofannol a heintus.
Mae hantafeirws yn "wahanol iawn" i Covid meddai, ac mae'r risg i'r cyhoedd yn "isel iawn".
Yn ystod y 72 awr bydd arbenigwyr iechyd y cyhoedd yn asesu os gall teithwyr ynysu adref neu mewn lleoliad arall addas yn dibynnu ar eu sefyllfa fyw.
Bydd Prydeinwyr sydd yn dychwelyd i'r DU yn hunan ynysu am 45 diwrnod a fydd dim hawl ganddyn nhw fynd ar drafnidiaeth gyhoeddus i'w cartrefi.
Fe gyrhaeddodd y llong MV Hondius Tenerife fore dydd Sul.
Y nod yw bod yr holl deithwyr heblaw'r criw wedi gadael y llong erbyn saith o'r gloch nos Lun.
Chwe achos sydd wedi eu cadarnhau o'r feirws hyd yn hyn gyda phedwar person yn yr ysbyty.
Ychwanegodd Sefydliad Iechyd y Byd bod wyth achos gan gynnwys tair marwolaeth wedi eu hadrodd. Mae tri o Brydain ymhlith yr wyth achos yna.
Llun: Jamie Lashmar/PA