Y llwybr yn glir i Rhun ap Iorwerth gael ei benodi'n brif weinidog

Rhun ap Iorwerth mhorwood_Plaid_Cymru_Manifesto_Launch_090426_8082.JPG

Mae disgwyl i Rhun ap Iorwerth greu hanes mor fuan â dydd Mawrth yr wythnos hon drwy gael ei benodi'n brif weinidog cyntaf Plaid Cymru, gan fod y llwybr gwleidyddol yn glir iddo wneud hynny.

Mae’r Blaid Werdd wedi dweud y bydd eu dau aelod yn y Senedd yn pleidleisio o blaid Mr ap Iorwerth i fod yn arweinydd ar Gymru, ac mae'r Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Lafur wedi awgrymu eu bod am ymatal ar y bleidlais.

Dywedodd Anthony Slaughter, arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, fod gan Mr ap Iorwerth “fandad clir” i arwain ar ôl ennill y nifer fwyaf o seddi mewn etholiad hanesyddol.

Bydd y Ceidwadwyr yn trafod eu penderfyniad ddydd Llun neu'n gynnar dydd Mawrth ar benodi prif weinidog, gyda Reform UK wedi cynnig enw eu harweinydd Dan Thomas.

Gyda dwy blaid yn ymatal a dim digon o niferoedd ymysg y Ceidwadwyr a Reform UK i atal penodiad Rhun ap Iorwerth, mae'n debygol felly y bydd Cymru'n gweld prif weinidog o rengoedd Plaid Cymru am y tro cyntaf erioed dros y dyddiau nesaf.

Image
Rhun ap Iorwerth
Rhun ap Iorwerth yn cyrraedd y ganolfan gyfrif yn Llandudno ar ddydd yr etholiad (Llun: PA)

Mae angen i’r Senedd ethol Llywydd newydd yn gyntaf, wrth i Elin Jones ildio’r swydd honno ar ôl degawd yn y gadair, ac yna’r prif weinidog.

“Rydyn ni’n barod i fynd mor fuan â phosib,” meddai Rhun ap Iorwerth wrth raglen Sunday Supplement ddydd Sul. 

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd hi ddydd Mawrth.

“Os oes yna reswm dros oedi, ni fydd am amser hir, ac yn sicr dydd Mawrth yw’r hyn y bydden ni’n hoffi ei weld.”

Dywedodd Rhun ap Iorwerth ddydd Sadwrn y bydd Plaid Cymru yn ceisio ffurfio llywodraeth leiafrifol yng Nghymru.

Mae’r blaid wedi ennill 43 o seddi, gan olygu mai hi yw’r blaid fwyaf, ond nid yw wedi sicrhau mwyafrif, sef 49 o seddi.

Cafodd Reform UK 34 o seddi, gyda Llafur Cymru yn drydydd â naw, y Ceidwadwyr Cymreig â saith, y Blaid Werdd â dwy, a’r Democratiaid Rhyddfrydol ag un.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.