Gwynedd: Heddlu'n ymchwilio ar ôl i 100 o ddefaid mynydd gael eu dwyn
Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio ar ôl i 100 o ddefaid Mynydd Cymreig gael eu dwyn ger Machynlleth yng Ngwynedd.
Dywedodd tîm troseddau cefn gwlad yr heddlu ddydd Mercher fod y defaid wedi cael eu dwyn o’r mynyddoedd uwchben pentref Pennal.
Dywedodd Rhys Evans o’r tîm troseddau cefn gwlad: “Ar 16 Gorffennaf 2026, daethpwyd â mwy na 700 o ddefaid i lawr o’r mynyddoedd er mwyn eu cneifio, cyn iddynt gael eu gyrru’n ôl i’r mynydd i bori.
“Ar 12 Medi, daethpwyd â’r defaid i lawr o’r mynyddoedd unwaith eto, a darganfuwyd bod 100 ar goll.
“Mae’r ffensys a’r ffiniau wedi cael eu gwirio, ac rydyn ni’n credu bod y defaid wedi cael eu dwyn.
“Defaid Mynydd Cymreig o wahanol oedrannau yw’r rhain, a bydd marc fferm y perchennog ar eu clustiau.
“Mae marcio clustiau defaid yn ddull traddodiadol a pharhaol o adnabod defaid.
"Mae’n cael ei ddefnyddio i ddangos pwy sy’n berchen ar braidd, i nodi llinach, neu i ddefnyddio codau rhifo, drwy dorri marc siâp V neu U yng nghlust yr anifail.”
Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y defaid i gysylltu drwy ddyfynnu’r cyfeirnod 26000794147.
