Gwynedd: Dyn yn dioddef anaf difrifol ar draeth wedi iddo agor potel gwrw â chyllell

RNLI potel gwrw

Bu'n rhaid i'r gwasanaethau brys ymateb i ddyn oedd wedi dioddef anaf difrifol i'w fraich ar draeth yng Ngwynedd, ar ôl iddo geisio agor potel o gwrw gyda chyllell.

Roedd y dyn yn gwaedu cymaint fel y gallai ei fywyd fod mewn perygl.

Cafodd Gwylwyr y Glannau wybod am yr argyfwng gan yr harbwrfeistr lleol ddydd Sadwrn, ac fe gafodd criw RNLI Aberdyfi eu galw am 14:05 i ddarparu gofal i'r dyn oedd wedi ei anafu.

Aeth dau aelod o'r criw i'r lan i asesu'r claf. Ar ôl cyrraedd, roedd aelodau'r cyhoedd eisoes wedi lapio tywel yn dynn o amgylch y clwyf gan roi pwysau ar gesail y claf i helpu i atal y gwaedu.

Yn fuan wedyn, cyrhaeddodd Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol ('Community First Responders') y lleoliad, ac yna parafeddyg o Wasanaeth Ambiwlans Cymru.

Glaniodd Ambiwlans Awyr Cymru gerllaw i gynnig cymorth ychydig yn ddiweddarach.

Dechreuodd y claf waedu eto wrth gael ei asesu, ac ar ôl sefydlogi'r anaf fe wnaeth y gwasanaethau brys y penderfyniad i gludo'r dyn i'r ysbyty yn yr hofrennydd i gael triniaeth arbenigol ychwanegol.

Dywedodd aelod o griw RNLI Aberdyfi, Oli Simmons: ‘Galwad anghyffredin i ni. Roedd y gŵr wedi llithro wrth agor cwrw gyda chyllell ac wedi rhoi clwyf dwfn iddo’i hun.

"Roedd aelodau’r cyhoedd wedi gwneud gwaith gwych o atal y gwaedu nes i ni gyrraedd.

"Gyda chefnogaeth gan ein cydweithwyr yn Ymatebwyr Cyntaf y Gymuned, Parafeddyg Ambiwlans Cymru a chriw’r Ambiwlans Awyr, fe wnaethon ni gael y gŵr ymlaen i dderbyn triniaeth bellach.

"Canlyniad gwych ac un sy'n atgoffa pobl i ddefnyddio’r offeryn cywir ar gyfer y gwaith."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.