Cwpan y Byd: Yr Almaen allan ar ôl colli ar giciau o'r smotyn
Mae'r Almaen allan o Gwpan y Byd ar ôl colli ar giciau o'r smotyn yn erbyn Paraguay nos Lun.
Mae'r cewri Ewropeaidd, sydd wedi ennill y gystadleuaeth ddwywaith yn y gorffennol, allan yn rownd y 32 olaf ar ôl colli 4-3 wedi ciciau o'r smotyn yn Boston.
Roedd yr Almaen wedi llwyddo i unioni'r sgôr yn ail hanner y gêm gyda gôl gan ymosodwr Arsenal, Kai Havertz, ar ôl i Paraguay fynd ar y blaen yn yr hanner cyntaf ar ôl peniad gan Julio Enciso.
Inline Tweet: https://twitter.com/FIFAWorldCup/status/2071739490452865366?s=20
Ar ôl i'r gêm orffen yn gyfartal wedi amser ychwanegol, fe methodd Havertz ac ymosodwr Newcastle United, Nick Woltemade, cyn i Jonathan Tah methu unwaith eto.
Fe sgoriodd Jose Canale y gic allweddol i sicrhau lle'r tîm o Dde America yn rownd yr 16 olaf.
Colli ar giciau o'r smotyn oedd hanes yr Iseldiroedd hefyd, a hynny o 2-3 yn erbyn Morocco ar ôl gêm gyfartal 1-1 yn Monterrey.
Prif lun: DFP