Ceiswyr lloches i dalu £10,000 tuag at gost eu llety dan gynllun newydd Llywodraeth y DU

Cwch gyda cheiswyr lloches

Bydd yn rhaid i geiswyr lloches dalu hyd at £10,000 tuag at gost eu llety a'u cefnogaeth unwaith y byddant yn dechrau ennill arian, meddai’r Ysgrifennydd Cartref Shabana Mahmood.

Fe fydd yn rhaid iddyn nhw dalu'r swm llawn cyn y gallen nhw fod yn gymwys i gael statws ymgartrefu o dan y mesurau fydd yn cael eu cyflwyno yn San Steffan ddydd Mawrth.

Mae'n debyg y bydd oedolion cymwys yn talu swm bob mis uwchlaw trothwy penodol - yn debyg i fenthyciad myfyrwyr.

Mae angen statws ymsefydlu, neu Ganiatâd Amhenodol i Aros, ar fewnfudwyr er mwyn gallu byw, gweithio ac astudio'n barhaol yn y DU.

Dywedodd y Llywodraeth eu bod wedi gwario £4 biliwn ar lety a chefnogaeth i geiswyr lloches y llynedd, ac mae'r Swyddfa Gartref yn amcangyfrif mai cost gyfartalog y pen y noson o letya ceiswyr lloches yw £23.25 mewn llety dosbarthu a £144 mewn gwestai - tra bod taliadau cynhaliaeth yn amrywio o £9.95 i £49.18 y pen yr wythnos.

Dywedodd Ms Mahmood fod y gost yn “rhy uchel”.

“Rydym eisoes wedi lleihau costau lloches o £1 biliwn, ond mae hefyd yn iawn ein bod yn gofyn i’r rhai a all gyfrannu i wneud hynny,” meddai.

“Mae derbyn cymorth lloches yn hawl, ond mae hefyd yn gyfrifoldeb. Unwaith y gall pobl gyfrannu ac ad-dalu haelioni pobl Prydain, rydym yn disgwyl iddynt wneud hynny.”

Disgwylir i geiswyr lloches orfod talu cyfanswm o tua £10,000, ond bydd yr Ysgrifennydd Cartref yn gallu addasu’r swm, meddai’r Swyddfa Gartref.

Fe fydd y rhai sy’n gyfrifol am y gost ac sy’n gadael y DU yn gorfod talu’n llawn os ydyn nhw am ddod yn ôl yn y dyfodol.

Bydd y pwerau sydd eu hangen i adennill y costau yn cael eu nodi gan y Mesur Mewnfudo a Lloches pan gaiff ei gyflwyno ddydd Mawrth.

'Creulondeb'

Dywedodd Dr Madeleine Sumption, cyfarwyddwr yr Arsyllfa Ymfudo ym Mhrifysgol Rhydychen, ei bod yn debygol mai dim ond cyfran gymharol fach o bobl sy'n derbyn lloches fyddai'n ennill digon i dalu tuag at y cynllun mewn gwirionedd.

Fe allai hefyd atal ceiswyr lloches rhag gweithio unwaith y byddan nhw’n cael statws ffoadur er mwyn osgoi’r gost, meddai.

Dywedodd: “Mae’r data’n awgrymu oni bai bod y trothwyon yn sylweddol is na’r isafswm cyflog, byddai cyfran gymharol fach o bobl sy’n cael lloches yn ennill digon i wneud cyfraniadau i’r cynllun.

“Mae effaith y cynllun ar gyllid cyhoeddus yn debygol o fod yn gymharol fach, oherwydd ei fod yn daliad prawf modd ar gyfer poblogaeth incwm isel iawn."

Dywedodd Zoe Dexter, o elusen hawliau dynol Sefydliad Helen Bamber, fod y cynllun yn gyfystyr â “mwy o greulondeb gan y Llywodraeth”.

“Mae codi tua £10,000 ar ffoaduriaid wedi iddyn nhw ddod o hyd i waith o’r diwedd i’r gwrthwyneb i integreiddio,” meddai.

“Dyma bobl sydd wedi ffoi rhag erledigaeth a thrais eithafol, yn aml yn cyrraedd heb ddim, cyn treulio misoedd neu flynyddoedd mewn llety gorlawn, adfeiliedig, weithiau’n wynebu brawychu a phrotestiadau treisgar y tu allan i’r lleoedd y maent yn eu cartrefu.

“Mae rhoi baich dyled arnyn nhw wrth iddyn nhw ddechrau ailadeiladu eu bywydau yn gwbl anghyfiawn ac yn gwbl hunan-ddinistriol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.