Gwynedd: Cwmni'n prynu parc antur poblogaidd

Gelli Gyffwrdd

Mae parc antur poblogaidd yng Ngwynedd oedd ar werth am £1.2m wedi cael ei brynu gan berchennog newydd.

Cafodd Gelli Gyffwrdd,  sydd wedi’i leoli rhwng Bethel a'r Felinheli, ei roi ar y farchnad ym mis Ebrill.

Ddydd Llun, daeth cyhoeddiad bod y parc wedi’i brynu gan The Wood Family Group, sydd yn dweud y bydd yn “buddsoddi yn nyfodol” y parc, gan gynnwys adeiladu reidiau, atyniadau a chyfleusterau newydd.

Dywedodd y grŵp y byddai staff presennol yn “parhau i chwarae rôl hanfodol wrth siapio dyfodol Gelli Gyffwrdd.”

Dywedodd Andrew Wood, cyfarwyddwr The Wood Family Group: “Mae Gelli Gyffwrdd wedi bod yn barc anhygoel gyda hanes balch a chymuned o ymwelwyr ffyddlon.

“Mae’n fraint i ni fod yn geidwaid ar y parc.”

Cafodd y parc, sydd yn cael ei adnabod yn Saesneg fel parc GreenWood, ei sefydlu yn 1991 cyn cael ei werthu i gwmni Continuum Attractions yn 2017.

Dywedodd y perchnogion newydd y byddant yn “adeiladu ar waddol” Continuum Attractions, wrth “edrych ymlaen i fynd a Gelli Gyffwrdd i’r bennod nesaf wrth barchu popeth sydd wedi’i wneud yn lle mor arbennig.

“Mae gan The Wood Family Group gynlluniau hir dymor uchelgeisiol ar gyfer Gelli Gyffwrdd, gan gynnwys buddsoddi mewn reidiau, atyniadau, profiadau chwarae a chyfleusterau newydd ar gyfer gwestai,” meddai llefarydd.

“Fel busnes teuluol â degawdau o brofiad o weithredu busnesau amrywiol, mae The Wood Family Group wedi ymrwymo i fuddsoddiad hirdymor, profiadau cwsmeriaid eithriadol a chefnogi'r gymuned leol.

“Mae'r pryniant yn adlewyrchu hyder y teulu yn nyfodol twristiaeth yng ngogledd Cymru, a'i awydd i weld Gelli Gyffwrdd yn parhau i ffynnu.

“Gall gwesteion edrych ymlaen at gyhoeddiadau cyffrous dros y misoedd nesaf wrth i gynlluniau gael eu datgelu ar gyfer atyniadau, digwyddiadau a phrofiadau newydd a gynlluniwyd i wneud pob ymweliad hyd yn oed yn fwy cofiadwy.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.