Y Gwasanaeth Tân yn parhau i reoli 'tân gwastraff masnachol' ym Mhort Talbot

Barri
Mae criwiau gwasanaethau tân o dde a chanolbarth Cymru'n parhau i weithio ar safle tân sylweddol ym Mhort Talbot.
 
Dywedodd llefarydd o Wasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru fod eu swyddogion yn cydweithio'n agos gyda Gwasanaeth Tân De Cymru i ymateb i'r "tân gwastraff masnachol parhaus" ar Ffordd y Dociau, ynghyd â phartneriaid eraill.
 
Roedd cwmwl o fwg i'w weld dros y safle ddydd Mercher, ond bellach mae'r tân dan reolaeth.
 
Mae'r gwasanaethau tân yn cynghori pobl i barhau i osgoi'r ardal am y tro ac yn gofyn i bobl leol gau eu ffenestri os oes mwg i'w weld.
 
Ychwanegodd llefarydd eu bod yn ddiolchgar i'r gymuned leol am ei chymorth a'i hamynedd ac fe fydd diweddariad yn cael ei gyhoeddi maes o law.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.