Gorfoledd i Gasnewydd ond gobeithion Wrecsam o ddyrchafiad ar ben
Roedd gorfoledd i gefnogwyr Casnewydd ar ddiwrnod olaf y tymor pêl-droed, ond siom i gefnogwyr Wrecsam wrth i'w breuddwyd o sicrhau pedwar dyrchafiad yn olynol ddod i ben.
Yn wynebu Barrow, y tîm ar waelod Adran Dau, roedd pethau'n edrych yn wael i'r Alltudion ar hanner amser brynhawn Sadwrn, gyda Barrow un gôl ar y blaen.
Ond fe lwyddodd tîm Christian Fuchs i droi'r gêm ar ei phen yn ugain munud ola'r gêm, wrth i'r eilydd Tom Davies unioni'r sgôr wedi 76 munud.
Chwe munud yn ddiweddarach, fe wnaeth Bobby Kamwa ganfod y rhwyd i sicrhau buddugoliaeth 1-2, oedd yn ddigon i sicrhau eu bod yn gorffen yn yr 20fed safle yn Adran Dau ac allan o safleoedd y cwymp.
Mae'n golygu bydd yr Alltudion yn cadw eu lle yng nghynghreiriau pêl-droed Lloegr am dymor arall.
Yn gynharach ddydd Sadwrn, daeth gobeithion Wrecsam o gyrraedd y gemau ail-gyfle yn y Bencampwriaeth a chadw'r freuddwyd o gyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr i ben.
Fe gafodd y Dreigiau gêm gyfartal yn erbyn Middlesbrough ar y Cae Ras ddydd Sadwrn, ond fe wnaeth buddugoliaeth Hull yn erbyn Norwich olygu mai nhw oedd yn hawlio'r lle olaf ar gyfer y gemau ail-gyfle.
Mae'r canlyniadau yn golygu bod Wrecsam yn gorffen yn y seithfed safle yn y Bencampwriaeth, wedi iddyn nhw sicrhau tri dyrchafiad yn olynol i gyrraedd y gynghrair yma.
Fe lwyddodd Ipswich i sicrhau dyrchafiad awtomatig i Uwch Gynghrair Lloegr ddydd Sadwrn wedi iddyn nhw guro Queens Park Rangers 3-0.
Mae hyn yn golygu mai Millwall, Southampton, Middlesbrough a Hull fydd yn brwydro am y safle olaf yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Fe fydd Millwall yn wynebu Hull gyda Southampton yn wynebu Middlesbrough yn y rowndiau cyn-derfynol, gydag enillydd y ddwy gêm yn mynd ymlaen i herio'i gilydd yn Wembley yn y rownd derfynol.