Sir Ddinbych: Apêl er cof am dad 'arbennig' fu farw mewn gwrthdrawiad yn cyrraedd £20,000
Mae apêl i godi arian i deulu dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Ddinbych fis Ebrill wedi cyrraedd £20,000.
Bu farw Greg Campbell yn dilyn gwrthdrawiad ar Ffordd Victoria, Prestatyn, ddydd Llun 20 Ebrill.
Mae ffrind Mr Campbell, Christopher Watts, wedi sefydlu ymgyrch ar wefan GoFundMe ar gyfer ei deulu.
Wrth roi teyrnged, dywedodd Mr Watts: “Wythnos diwethaf, fe gollon ni rywun gwirioneddol arbennig. Roedd Greg yn gymeriad a hanner gyda chalon fawr ac mae’n gadael bwlch enfawr ym mywydau gymaint o bobl yn ardal gogledd Cymru ac Wigan.
“Roedd llawer iawn o gariad tuag ato a nawr mae’r cariad yna’n cael ei deimlo’n fwy nag erioed.
“Rwyf wedi sefydlu’r gronfa hon fel teyrnged i Greg ac i gefnogi ei deulu yn ystod y cyfnod hynod anodd yma, a fydd yn cyfrannu tuag at gostau addysg ei ferch Lanie yn y dyfodol."
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Ffordd Victoria yn y dref am 17:36 brynhawn dydd Llun 20 Ebrill yn dilyn adroddiadau am wrthdrawiad rhwng Vauxhall Mokka a cherddwr.
Cafodd y dyn ei gludo i’r ysbyty yn Stoke ar ôl dioddef anafiadau, ond bu farw'n ddiweddarach.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn gofyn i unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu unrhyw un a oedd yng nghyffiniau Ffordd Victoria ar y pryd ac a allai fod â lluniau dashcam, gysylltu â swyddogion gan ddyfynnu’r cyfeirnod 26000311780.
Prif lun: Greg Campbell a'i ferch Lanie (Llun: Gofundme)