Gobaith newydd i feddygfa yng Nghwm Gwendraeth oedd dan fygythiad o gau
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cytuno i archwilio os oes modd i ddarparwr newydd redeg meddygfa yn Sir Gâr oedd dan fygythiad o gau.
Roedd argymhelliad blaenorol gan Banel Meddygfa Wag i gau Meddygfa'r Sarn, Pont-iets, a symud y cleifion i feddygfeydd eraill oedd agosaf at eu cartref.
Yn dilyn ymgysylltu â chleifion, staff a'r gymuned leol, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cytuno i archwilio a allai darparwr Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol newydd neu bresennol ymgymryd â rhedeg Meddygfa'r Sarn.
Mewn cyfarfod o'r Bwrdd ddydd Iau, fe wnaeth yr aelodau gydnabod cryfder y teimlad yn lleol am ddyfodol y feddygfa.
O ganlyniad, mae'r Bwrdd wedi cytuno i archwilio a oes "diddordeb cynaliadwy mewn ymgymryd â rhedeg y feddygfa trwy gontract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol".
"Tra bod y gwaith hwn yn mynd rhagddo, bydd Meddygfa'r Sarn yn parhau i weithredu fel meddygfa a reolir, a dylai cleifion cofrestredig barhau i gyrchu gwasanaethau Meddyg Teulu fel y maent yn gwneud ar hyn o bryd," medden nhw.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r feddygfa wedi wynebu heriau staffio "parhaus a sylweddol" ac mae'r adeilad ei hun yn fach ac yn cynnig "cyfleusterau cyfyngedig" yn ôl Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
Ym mis Hydref 2025, cynhaliodd y bwrdd iechyd Banel Meddygfa Wag i adolygu opsiynau ar gyfer darparu gwasanaethau meddyg teulu yn yr ardal yn y tymor hir.
Ystyriodd y panel ystod o opsiynau, gan gynnwys rheoli'r feddygfa’n barhaus, uno â meddygfeydd cyfagos, dod o hyd i ddarparwr newydd, a gwasgaru'r rhestr cleifion.
Daeth y Panel i'r casgliad bryd hynny bod gwasgaru’r rhestr cleifion yn cynnig yr ateb hirdymor mwyaf cynaliadwy i gleifion ac ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol yn ardal Aman Gwendraeth.
Cyfnod ymgysylltu
Cafwyd cyfnod ymgysylltu wyth wythnos i ystyried y posibiliadau am ddyfodol y feddygfa ac fe gafwyd "nifer fach o fynegiadau anffurfiol o ddiddordeb gan ddarparwyr posib sydd â diddordeb mewn rhedeg y feddygfa" meddai datganiad gan y bwrdd iechyd.
"Er bod y sgyrsiau cynnar hyn yn galonogol, nododd y Bwrdd y byddai unrhyw drefniant ffurfiol yn gofyn am broses gaffael gadarn ac ystyriaeth ofalus o ddichonoldeb ariannol a gweithredol," medden nhw.
Dywedodd Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Rydym wedi gwrando'n ofalus ar yr hyn y mae pobl wedi'i ddweud wrthym.
"Clywsom yn glir faint mae Meddygfa'r Sarn yn ei olygu i'r gymuned leol. Mae hynny wedi pwysleisio pa mor bwysig yw ein bod yn cymryd yr amser i archwilio'n llawn ddichonoldeb y diddordeb anffurfiol sydd wedi dod i’r amlwg ynghylch rhedeg y feddygfa yn y dyfodol.
"Mae hyn yn ein galluogi i ymateb yn uniongyrchol i'r adborth hwnnw ac ystyried a oes ateb cynaliadwy a allai alluogi gwasanaethau i barhau o'r feddygfa.
"Rydym yn ddiolchgar i bawb a gymerodd yr amser i rannu eu barn gyda ni gan helpu i ddwyn dylanwad ar sut rydyn ni’n ystyried hyn."
Llun: Google