Galw am ymchwiliad yn sgil honiadau am AS a swyddogion yn y Llynges Frenhinol

Joani Reid / David Taylor

Mae gwleidyddion o blaid yr SNP yn yr Alban wedi galw am ymchwiliad yn sgil honiadau am AS sy’n wraig i Gymro a gafodd ei arestio ar amheuaeth o gynorthwyo Tsieina.

Fe gafodd David Taylor, sy'n gyn-ymgynghorydd i wleidyddion Llafur yng Nghymru, ei arestio ym mis Mawrth ynghyd â dau o bobl eraill mewn cysylltiad i ymchwiliad sy'n ymwneud ag ysbïo ar ran Tsieina.

Mae David Taylor, sydd o Ruthun, wedi gweithio i Ysgrifennydd Cymru mewn llywodraeth flaenorol, ac roedd yn ymgeisydd ar gyfer swydd Comisiynydd yr Heddlu Gogledd Cymru yn 2016.

Mae hefyd yn ŵr i'r AS Llafur dros Ddwyrain Kilbride a Strathaven, Joani Reid.

Yr wythnos hon, roedd adroddiadau ym mhapurau newydd y Times a’r Financial Times yn cynnwys honiadau bod Ms Reid wedi ymddwyn yn amhriodol gyda dau swyddog yn y Llynges Frenhinol.

Roedd un swyddog - a oedd yn rheoli llong danfor niwclear ym maes llynges Faslane yn yr Alban - wedi bod yn destun ymchwiliad ynglŷn â’r honiadau.

Fe ddaeth yr ymchwiliad i’r casgliad nad oedd wedi torri unrhyw reolau.

Nid yw’r swyddog bellach yn gyfrifol am y llong danfor, ond deallir bod hynny am resymau eraill ac mae’n dal yn gwasanaethu â’r Llynges Frenhinol.

Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi dweud nad oes ganddyn nhw unrhyw bryderon diogelwch ynghylch yr honiadau.

Ond mae’r SNP bellach wedi galw am ymchwiliad i ddiogelwch arfau niwclear y DU yn sgil yr honiadau am ymddygiad yr AS Joani Reid.

Mae’r blaid wedi galw ar Bwyllgor Cudd-wybodaeth a Diogelwch Senedd y DU i ymchwilio i ddiogelwch Trident wedi’r adroddiadau.

Dywedodd Kirsty Blackman, AS yr SNP dros Aberdeen North, bod angen “ymchwiliad llawn i weld a gafodd diogelwch Trident ei danseilio gan y sgandal hwn”.

Ymateb

Dywedodd ffynhonnell ar ran Llywodraeth y DU wrth ymateb i gais yr SNP ei fod “yn hollol hurt”. 

“Nid yw diogelwch ein hataliad niwclear wedi cael ei effeithio,” medden nhw. 

“Y bygythiad gwirioneddol i ddyfodol ein hataliad yw llywodraeth yr SNP yn yr Alban.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Llynges Frenhinol: “Diogelwch yr ataliad niwclear yw ein prif flaenoriaeth, ac mae gennym brosesau cadarn ar waith i sicrhau hynny.

“Fyddwn ni ddim yn gwneud sylw ar achosion unigol.”

Er bod Ms Reid yn wynebu ymchwiliad mewnol, dydy hi ddim yn destun ymchwiliad gan yr heddlu.

Adeg arestio ei gŵr, dywedodd Ms Reid ei bod am wneud yn glir nad oedd hi dan ymchwiliad ac nad oedd yn wynebu unrhyw honiadau mewn cysylltiad ag achos ei gŵr. 

“Dwi heb wneud dim o’i le,” ychwanegodd.

Mae Mr Taylor wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.