Galw ar Lywodraeth Cymru i 'gyflwyno newidiadau mawr i'r drefn gynllunio'

Newyddion S4C

Galw ar Lywodraeth Cymru i 'gyflwyno newidiadau mawr i'r drefn gynllunio'

Mae mudiad Dyfodol i'r Iaith wedi galw ar lywodraeth newydd Cymru i gyflwyno newidiadau mawr i'r drefn gynllunio er mwyn creu polisiau sydd yn ateb anghenion cymunedau yng Nghymru.

Yn ôl Prif Weithredwr y mudiad mae yna "lot fawr o waith" i'w wneud ym maes tai a chynllunio.

Dywedodd Dylan Bryn Roberts wrth Newyddion S4C bod angen "edrych ar yr holl gyfundrefn gwlad a thref" yng Nghymru a'i "haddasu i anghenion Cymru".

Yn ôl Dylan Bryn Roberts, mae cynlluniau datblygu lleol, sef y fframwaith sydd yn cael ei gosod er mwyn datblygu siroedd dros gyfnod o amser, wedi gosod targedau o ran codi tai sydd yn "ormodol o ran niferoedd" oherwydd gostyngiad mewn poblogaeth mewn rhai ardaloedd.

Mae'n dweud y dylai'r cynlluniau fod yn "adeiladu tai ar gyfer anghenion a twf y gymuned sydd yn byw yn y sir yna".

Mae hefyd yn galw ar y llywodraeth i sicrhau mai pobl leol sydd yn cael y flaenoriaeth ar gyfer tai cymdeithasol newydd.

Image
Ystad Heol Fferm Fila, yng nghysgod y Frenni Fawr yng Nghrymych
Ystad Heol Fferm Fila, yng nghysgod y Frenni Fawr yng Nghrymych

Mae Plaid Cymru yn bwriadu ceisio codi 20,000 o dai cymdeithasol newydd erbyn diwedd tymor y senedd bresennol yn 2030.

Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, yr IFS, wedi rhybuddio y bydd angen cynyddu gwariant cyfalaf yn sylweddol i gyrraedd y targed, er bod disgwyl i wariant cyfalaf ostwng mewn termau real yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Ym mhentref Crymych, mae cymdeithas tai Barcud newydd gwblhau ystad newydd Heol Fferm Fila ond mae hi wedi cymryd 13 mlynedd i gyrraedd y nod.

Mae 41 o gartrefi effeithlon o ran ynni wedi cael eu hadeiladu ar gost o £9m,  gyda 20 o gartrefi cymdeithasol ar rent a 21 cartref arall yn perthyn i gynllun rhanberchnogaeth Llywodraeth Cymru. 

Yn ôl cymdeithas tai Barcud, mae 95% o'r aelwydydd yn cynnwys rhywun sydd yn siarad Cymraeg, ac mae yna bolisi gosod lleol.

Image
Liam Harries.jpeg
Liam Harries

Mae Liam Harries yn rhentu tŷ ar yr ystad gyda'i deulu ifanc.

"Bues i yn edrych am sbel fach ond wedd dim byd lot ar y farced," meddai.

"Mae'n eitha galed i gael dy hunan ar y property ladder. Mae rhywbeth fel hyn wedi dod lan nawr ac roedd e'n arbennig i ni. Mae e wedi helpu lot o bobl lleol eraill fi'n nabod hefyd.

"We ni yn stryglan o'r blaen achos doedd dim lot o dai yn yr ardal ond we ni yn gwybod bod lot o fois ifanc moyn aros yn lleol ond wedd dim tai i gael. 

"Ynglyn â gwneud cais i fynd am un o'r tai, wedd eitha lot o wybodaeth roedd rhaid rhoi mewn. Bod ni yn dod o'r ardal lleol, pwy mor hir o ni wedi bod yn byw yn yr ardal, wedd lot o bethe fel 'na yn gwd i wneud yn siwr bod nhw yn cadw pobl lleol mewn."

'Drwgdeimlad'

 Yn ôl Dylan Bryn Roberts o Dyfodol i'r Iaith, mae'n allweddol mai pobl leol sydd yn cael y flaenoriaeth wrth osod tai cymdeithasol.

"Heb amheuaeth," meddai. "Un o'n pryderon ni fel mudiad ydy oherwydd y gyfundrefn bresennol, mae'n ddeddfwriaeth Brydeinig neu Cymru a Lloegr, ac felly mae modd i bobl, os ydyn nhw'n dod yma ar wyliau, ac mewn tŷ cymdeithasol yn Lloegr, mae deddf yn caniatau iddyn nhw cael tŷ yn yr ardal yma os mai dyna eu dymuniad.

"Mae hynny yn golygu fod pobl leol, sydd wedi bod yn disgwyl ers tro byd yn mynd yn is yn y rhestr o ran blaenoriaeth. Mae pobl yn dod ar draws achosion sydd yn digwydd mewn cymunedau cefn gwlad o bobl sydd yn dod o'r dinasoedd yn Lloegr. 

"Mae ganddyn nhw broblemau cymdeithasol ac yn y blaen, ac mae hynny yn achosi drwgdeimlad a gwrthdaro ar ben y dimensiwn ieithyddol."

Mae Plaid Cymru wedi addo sefydlu corff datblygu cenedlaethol newydd o'r enw Unnos i gyflymu'r broses o ddarparu tai cymdeithasol.

Image
Keith Henson, hwylusydd tai gwledig gyda Barcud
Keith Henson, hwylusydd tai gwledig gyda Barcud

Yn ôl Keith Henson, sydd yn gweithio fel hwylusydd tai gwledig i Barcud, mae yna heriau amgylcheddol ac ariannol er mwyn darparu digon o dai cymdeithasol. Mae yna oedi wedi bod gyda nifer o gynlluniau tai fforddiadwy oherwydd llygredd ffosfadau yn afonydd Cymru.

"Yr heriau sydd wedi bod, wrth gwrs yw ffosfadau sydd wedi bod yn dipyn o her ar draws gorllewin Cymru," meddai.

"Mae tipyn o her gyda chynllunio a gobeithio gyda gweld rheolaeth newydd yn y senedd y byddwn ni yn gweld mwy o gyfleon mewn ardaloedd gwledig.

"Mae angen sicrhau bod yna ffynhonnell arian dal yn bodoli o ran y grant tai cymdeithasol a sicrhau bod gwell system gynllunio, yn enwedig i ardaloedd gwledig, achos yn aml fan 'ny ni yn gweld yr heriau. 

"Hynny yw, bod y cynllun datblygu lleol wedi cael ei benderfynu gyda llywodraeth lawr yng Nghaerdydd. Mae pobl yn byw tu fas i ardaloedd fel Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd."

Ychwanegodd Keith Henson bod cynllun rhanberchnogaeth Llywodraeth Cymru yn cynnig cyfleon o ran cyllido tai cymdeithasol: "Efallai bod angen edrych ar esiampl Heol Fferm Fila. Mae pobl leol wedi cael cyfle i brynu tai, ac wrth ddefnyddio system fel 'na mae'r arian sydd yn cael ei dalu nol yn cael ei ailgylchu nol i adeiladu mwy o dai. 

"Mae angen i fi fod yn fwy smart o ran edrych ar ba fath o gynlluniau ariannol sydd ar gael."

Image
sian
Y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian

Mewn cyfweliad estynedig â rhaglen Newyddion S4C, dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian fod yna "lot fawr gallwn ni fod yn neud i gyrraedd y targed 20,000.

"Mae o'n nod uchelgeisiol iawn ond 'dan ni'n mynd i fod yn sefydlu corff o'r enw Unnos i helpu symud pethau ymlaen ag i gynllunio yn y tymor hir ac i helpu symud rei o'r rhwystrau sydd wedi bod yn y ffordd cyn belled o ran adeiladu a dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd cymdeithasol a trosi fflatiau uwchben siopau mewn canol trefi," meddai.

Wrth ymateb i bryderon mudiad Dyfodol i'r Iaith, dywedodd Siân Gwenllian: "Mae'r cynlluniau datblygu lleol angen edrych arnyn nhw'n fanwl, ma' angen i'r cymunedau fod yn rhan fwy o'r broses o greu cynlluniau datblygu lleol. 

"Ma'n ffocws i ar adeiladu a cynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol. Yn fan 'na mae'r ateb ar gyfer diwallu y problemau sydd yn y system tai. 

"Mewn ardaloedd gwledig, 'dan ni'n sôn am glystyrau bach iawn o dai cymdeithasol a pan 'dach chi'n edrych ar yr ystadegau, pobl leol ydy'r helyw o bobl sydd yn byw yn y stadau tai cymdeithasol.

"Mi yda ni'n gwbod fod creu cyflenwad digonol o dai cymdeithasol yn ffordd o helpu pobl leol i ffeindio cartref, pobl leol sydd mewn gwely a brecwast ar hyn o bryd, dydi hynna ddim yn ffordd i neb fod yn byw, a ma'r pwyslais yn gallu bod wedyn ar hynny." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.