Galw am gymeradwyo cyffur allai 'ymestyn bywyd' cleifion â chanser y fron

Canser y fron

Mae ymgyrchwyr yn dweud fod miloedd o gleifion canser y fron ar draws Cymru a Lloegr wedi methu mwynhau mwy o amser gyda'u teuluoedd am nad yw un cyffur ar gael ar y GIG. 

Mae'r cyffur Enhertu ar gael mewn 19 gwlad arall yn Ewrop - gan gynnwys yr Alban - ond nid yw ar gael yng Nghymru, Lloegr na Gogledd Iwerddon wedi i NICE ddweud ei fod yn rhy ddrud i'r GIG i'w ariannu.

Mae'r elusennau Breast Cancer Now, METUPUK a Make2ndsCount yn galw ar y GIG, y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) a gwneuthurwyr y cyffur i weithio gyda'i gilydd er mwyn sicrhau fod y cyffur ar gael yng Nghymru a Lloegr. 

Yn Lloegr, y sefydliad sy'n penderfynu pa gyffuriau sydd ar gael ar y GIG yw'r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE). 

Mae'r sefydliad yn gwneud argymhellion sy'n berthnasol i Loegr, ond mae'r penderfyniadau fel arfer yn cael eu mabwysiadu yng Nghymru yn ddiweddarach. 

Dywed elusen Breast Cancer Now y byddai cymeradwyo Enhertu yn Lloegr yn golygu y byddai'n dod ar gael yn fuan yng Nghymru hefyd. 

Dywedodd Claire Rowney, prif weithredwr yr elusen: "Rydym ni yma, unwaith yn rhagor, yn gofyn i Enhertu i fod ar gael ar gyfer y rhai sydd ei angen, ac rydym ni angen gweld hyn yn digwydd ar frys. 

"Y realiti trasig yw fod nifer o'r merched arbennig a wnaeth ymgyrchu gyda ni yn ôl yn 2024 i’r driniaeth hon fod ar gael ar y GIG wedi marw ers hynny."

Ychwanegodd ymgyrchwyr fod rhai merched yn defnyddio cynilion oes i gael triniaeth breifat, gydag eraill yn ystyried symud i'r Alban lle y mae modd i gleifion gael y cyffur am ddim ar y gwasanaeth iechyd. 

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn dibynnu ar gyngor annibynnol y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Iechyd a Gofal yng Nghymru i sicrhau bod y GIG yn talu pris teg am y meddyginiaethau y mae'n eu defnyddio.

"Ystyriodd NICE a ddylai Enhertu fod ar gael yn rheolaidd ond mae wedi dod i'r casgliad bod y pris a osodwyd gan y gwneuthurwyr yn rhy uchel."

Enhertu yw'r driniaeth drwyddedig gyntaf sydd wedi ei thargedu ar gyfer cleifion â chanser y fron HER2-isel nad oes modd cael gwared ohono neu sydd wedi lledaenu i rannau eraill o'r corff. 

Ym mis Ebrill, fe wnaeth newidiadau i sut y mae triniaethau yn cael eu gwerthuso gan NICE arwain at gyflwyno dwy feddyginiaeth canser newydd gan y GIG, sef cyffur vorasidenib ar gyfer canser yr ymennydd, a chyffur ripretinib ar gyfer cleifion â math prin o ganser yr ystumog. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.