Gweld llwyddiant sydyn ar-lein 'yn hybu agwedd o roi'r gorau iddi'n rhy hawdd' ymysg yr ifanc
Mae gweld llwyddiant sydyn ond arwynebol ar-lein yn hybu agweddau ymysg pobl ifanc o roi'r gorau iddi'n rhy hawdd os yw pethau’n cymryd amser, yn ôl adroddiad newydd ar ddiweithdra ymysg pobl ifanc.
Disgrifiodd yr ymchwil yr hyn yr oedd yn ei ddisgrifio fel “cenhedlaeth yr ystafell wely”, gyda llawer o’r rhai a adawodd yr ysgol yn 16 oed wedi treulio misoedd neu hyd yn oed flynyddoedd gartref, gyda llawer o'r cyfnod ar-lein.
Edrychodd yr adroddiad, sydd yn rhan o adolygiad Milburn gan lywodraeth San Steffan i bobl ifanc 16 i 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEETs).
Dywedodd cyd-awdur yr adroddiad ac aelod o banel Milburn, Shuab Gamote, fod yr ymchwil yn dangos bod pobl ifanc wedi “blino’n lân” gyda system sy’n gwneud iddynt deimlo eu bod wedi’u gwrthod cyn iddynt droi'n oedolion.
Dywedodd y cyn-bennaeth ysgol Peter Hyman, cyd-awdur yr adroddiad, fod eu canfyddiadau’n dangos “mater dyfnach am y gymdeithas rydyn ni’n byw ynddi”, gan honni “ein bod ni wedi creu amgylchiadau” gan gynnwys sefyllfa economaidd wael, unigedd yn ystod y cyfnod clo, a mynediad at “gyfryngau cymdeithasol dinistriol”, sydd wedi arwain at y “genhedlaeth sydd wedi’i gadael ar ôl”.
Rhybuddiodd yn yr adroddiad: “Oni bai ein bod ni’n gweithredu, nid oes dyfodol i’r wlad”.
Ymysg eu casgliadau, fe wnaeth awduron yr adroddiad nodi bod rhai pobl ifanc wedi mynd i arfer o roi’r gorau iddi'n rhy sydyn ac roedd hynny “wedi’i sbarduno gan gyfryngau cymdeithasol”.
Dywedodd rhai pobl ifanc wrth yr ymchwiliwyr fod “hyrwyddo llwyddiant syth bin ar-lein yn arwain at ddiwyllianto roi’r gorau iddi os yw pethau’n cymryd amser” ac, er eu bod nhw’n mwynhau’r “ergyd dopamin” o ddechrau swydd newydd, gall diflastod ddechrau’n gyflym a’u bod nhw’n teimlo eu bod nhw eisiau symud ymlaen.
