Yr heddlu'n gweithio gyda pharciau gwyliau i atal trais yn erbyn menywod

Parc Gwyliau
Bydd Heddlu Gogledd Cymru’n gweithio gyda pharciau gwyliau’r ardal dros yr haf, er mwyn helpu i atal digwyddiadau o drais yn erbyn menywod sydd ar eu gwyliau.
 
Dywedodd y Swyddog Trwyddedu, Liz Williams o Heddlu'r Gogledd: “’Da ni wedi cyflwyno’r hyfforddiant hwn i barc gwyliau ym Mhwllheli’n diweddar, lle mae’r boblogaeth yn cynyddu bedair gwaith dros fisoedd yr haf.
 
“Mi hyfforddwyd staff bar a diogelwch er mwyn adnabod arwyddion trais domestig, ac arwyddion defnyddio cyffuriau, y mathau o gyffuriau sy’n cael eu defnyddio’n gyffredinol yn yr economi gyda’r nos a sbeicio.
 
“Mi drafodon ni’r hyn i’w wneud os ydyn nhw’n amau bod camfanteisio rhywiol o blant neu droseddau llinellau cyffuriau yn digwydd ar y safle."
 
Ychwanegodd: “Mae’r dull ataliol hwn efo’r bwriad o roi hyder i staff lletygarwch sylwi pan mae rhywbeth o chwith, a rhoi gwybod i ni’n gyflym, er mwyn i ni ymdrin â fo cyn iddo waethygu.
 
“Rydym yn annog unrhyw barc gwyliau sydd heb gael yr hyfforddiant hwn ac eisiau cymryd rhan i gysylltu efo ni drwy ein gwefan.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.