Y Canghellor i gyhoeddi cymorth gyda chostau byw o achos rhyfel Iran
Fe fydd y Canghellor Rachel Reeves yn cyhoeddi nifer o gamau'n ddiweddarach yn y gobaith o geisio lleddfu effaith rhyfel Iran ar gwsmeriaid o ddydd i ddydd.
Mae'r Llywodraeth yn torri tollau mewnforio ar fwy na 100 math o gynnyrch yn y gobaith y bydd yn arbed mwy na £150 miliwn y flwyddyn i bobl.
Bydd y rhestr lawn o o gynhyrchion fydd yn gweld gostyngiad yn eu tariffau, a'u prisiau o ganlyniad, yn cael ei gyhoeddi'r wythnos nesaf.
Ond mae disgwyl y gallai gynnwys bisgedi, siocled, ffrwythau sych a chnau.
Mae disgwyl i'r Canghellor gyhoeddi cynllun "Arbedion Haf Prydain Fawr" ddydd Iau, gan gynnwys teithiau bws am ddim i blant yn Lloegr yn ystod gwyliau'r haf ym mis Awst.
Mae plant a phobl ifanc yng Nghymru'n cael teithio'n rhatach ar drafnidiaeth gyhoeddus dan gynllun sy'n bodoli'n barod.
Yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Iau, bydd Ms Reeves yn manylu ar ei pholisïau fydd, meddai, yn ceisio mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw sydd wedi codi o ganlyniad i ryfel Donald Trump yn y Dwyrain Canol.
Ond nod oes disgwyl iddi gyhoeddi cymorth gyda biliau ynni sydd hefyd wedi codi o ganlyniad i'r rhyfel.
Y disgwyl yw y bydd y cap ar bris ynni mewn cartrefi'n codi £209 y flwyddyn o fis Gorffennaf ar ôl i Gulfor Hormuz gau, gan arwain at y cynnydd mewn prisiau olew a nwy yn fyd-eang.
Mae'r cynllun i dorri tariffau ar rai mewnforion bwyd yn rhan o ymdrech ehangach y Llywodraeth i leddfu'r cynnydd mewn prisiau yn y siopau.
