Galw am Yr Eidal i gymryd lle Iran yng Nghwpan y Byd
Mae un o uwch genhadon Donald Trump yn galw am i'r Eidal gymryd lle Iran yng Nghwpan y Byd eleni yng Ngogledd America.
Gyda’r rhyfel yn parhau yn y Dwyrain Canol, mae amheuon dros bresenoldeb Iran yn y twrnament, a fydd yn cael ei chynnal yn yr Unol Daleithiau, Canada a Mecsico.
Mewn cyfweliad gyda’r Financial Times, dywedodd cennad arbennig America, Paolo Zampolli: “Gallaf gadarnhau fy mod wedi awgrymu i Trump ac Infantino (Llywydd FIFA) y dylai’r Eidal gymryd lle Iran yng Nghwpan y Byd.
“Rwy’n frodor o’r Eidal ac fe fyddai’n freuddwyd i mi weld yr Azzuri mewn twrnament yn America. Wedi ennill y bencampwriaeth bedair gwaith, mae ganddynt yr hanes i gyfiawnhau cael eu cynnwys.”
Nid yw’r Tŷ Gwyn, FIFA na chymdeithasau pêl-droed Yr Eidal na Iran wedi ymateb i’r awgrym.
Mae’r Eidal wedi ennill Cwpan y Byd ar bedwar achlysur, yn 1934, 1938, 1982 a 2006. Ond colli ar giciau o’r smotyn yn erbyn Bosnia a Herzegovina oedd eu hanes yn rownd derfynol y gemau ail gyfle fis diwethaf.
Roedd Bosnia wedi trechu Cymru ar giciau o’r smotyn yn y rownd gyn derfynol yn Stadiwm Dinas Caerdydd.