Cyngor Sir Ynys Môn yn gwrthod cais i greu canolfan ddata AI yn Amlwch

Octel, Amlwch

Mae cynlluniau ar gyfer creu canolfan ddata AI yn Amlwch, Ynys Môn wedi cael eu gwrthod.

Cafodd cynlluniau a gafodd eu cyflwyno gan gwmni Carbon 3.AI i Gyngor Môn i adeiladu'r ganolfan ar safle hen adeilad clwb chwaraeon a chymdeithasol ffatri Octel ar yr ynys.

Dywedodd y pwyllgor cynllunio bod y cynlluniau heb ddangos yn glir "na fyddai'n niweidio'r tirlun, safleoedd dynodedig arbennig, ecoleg a chyfarpar Dŵr Cymru."

Mae'r safle maint 61 erw wedi bod ar gau ers 2004 ac roedd y cwmni yn gobeithio byddai defnydd yr adeilad yn "gam enfawr" i'w gwaith cenedlaethol i "sefydlu rhwydwaith eang a diogel ledled y DU."

Mae gan y safle a'r lleoliad ehangach statws lleoliad treth fel rhan o Borthladd Rhydd Ynys Môn, sydd yn golygu bod busnesau yn yr ardal yn gallu elwa o gonsesiwn treth.

Roedd llythyr gan gwmni Egnïol Consulting Ltd oedd yn rhan o'r cais yn dweud bod Carbon3.AI yn ceisio ailbwrpasu strwythurau'r safle i ganolfan ddata AI "fodern ac effeithlon o ran ynni."

Ychwanegodd y llythyr y byddai'r cyfleusterau yn rhai carbon isel ac yn gallu sicrhau system AI ddiogel oedd gyda gallu uchel.

Ond fe benderfynodd pwyllgor cynllunio'r ynys nad oedd digon o ystyriaeth i sawl ffactor ac felly fe gafodd y cais ei wrthod.

Ychwanegodd aelodau'r pwyllgor hefyd fod y cynlluniau yn "gwrthdaro" gyda pholisïau amrywiol a chyngor technegol.

 
 



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.