‘Gallai hi ’di marw’: Galw am newid comisiynu gofal cartref wedi profiad mam-gu 83 oed
‘Gallai hi ’di marw’: Galw am newid comisiynu gofal cartref wedi profiad mam-gu 83 oed
Mae dynes 21 oed o’r Rhondda’n dweud y gallai ei mam-gu fod wedi marw oherwydd problemau honedig gyda’r ffordd roedd ei meddyginiaeth yn cael ei rhoi iddi gan gwmni gofal cartref.
Mae Lilly Lloyd, o Borth, bellach yn galw am newid y ffordd mae cynghorau Cymru’n comisiynu gofal cymdeithasol ar ôl profiad ei mam-gu, Rosalind Jeremiah.
“Mae’n life saving,” meddai Lilly am un o’r meddyginiaethau roedd ei mam-gu yn ei gymryd.
“Gallai hi ’di marw os oedd hi ddim yn cael y meddyginiaeth.”
Roedd Rosalind, sy’n 83 oed, yn derbyn gofal yn ei chartref gan Care Cymru, darparwr oedd wedi’i gomisiynu gan Gyngor Rhondda Cynon Taf.
Yn ôl Lilly, roedd problemau gydag amseroedd galwadau, rhoi meddyginiaeth a’r cymorth dyddiol roedd ei mam-gu’n ei dderbyn.
Erbyn hyn, mae hi wedi lansio deiseb yn galw ar gynghorau Cymru i roi mwy o bwyslais ar ansawdd, parhad a diogelwch wrth gomisiynu gofal.
Mae hefyd yn galw ar awdurdodau lleol i beidio â dewis darparwyr ar sail y gost isaf yn unig.
Yn ôl Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, mae tystiolaeth gan bobl hŷn a’u hanwyliaid yn awgrymu bod y system gofal cymdeithasol yng Nghymru ar hyn o bryd yn “dameidiog”.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi ymddiheuro am yr achlysuron pan nad oedd y gofal yn cyrraedd y safon y dylai Rosalind a’i theulu fod wedi’i disgwyl.
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Care Cymru ar sawl achlysur dros e-bost a dros y ffôn i roi cyfle i’r cwmni ymateb i’r honiadau yn y stori hon.
Ni chafwyd ymateb newydd gan y cwmni.
Mae Care Cymru wedi ymateb i’r teulu yn flaenorol ar ôl iddyn nhw gwyno am y gofal a gafodd Rosalind.
Mae Newyddion S4C wedi gweld yr ohebiaeth honno. Ymddiheurodd y cwmni i’r teulu yn dilyn eu cwyn gyntaf a dywedodd ei fod wedi cymryd nifer o gamau mewn ymateb.
Problemau gyda’r gofal
Mae Rosalind yn byw ar ei phen ei hun yn Aberllechau, Y Rhondda.
Wedi iddi gwympo a thorri ei garddwrn a’i chefn, a threulio cyfnod hir yn yr ysbyty, roedd angen gofal arni yn ei chartref.
Dywedodd Lilly fod y problemau gyda’r gofal wedi dechrau tua thair wythnos ar ôl i Care Cymru ddechrau darparu’r gwasanaeth.
Roedd y gofalwyr yn ymweld â Rosalind sawl gwaith y dydd ac yn ei helpu i ymolchi a pharatoi bwyd a diodydd.
Yn ddiweddarach, dechreuodd y gofalwyr roi ei meddyginiaeth hefyd.
Wrth ddisgrifio’r galwadau, dywedodd Lilly: “Maen nhw’n dod deg yn y bore, deuddeg o’r gloch, tri o’r gloch a wedyn tua chwech o’r gloch.
“Roedd yna pedwar calls am y dydd.”
Yn ôl Lilly, roedd Rosalind wedi dweud wrth y teulu nad oedd y gofalwyr bob amser yn cyrraedd ar yr amseroedd disgwyliedig.
Roedd y teulu hefyd yn poeni am yr amseroedd roedd rhai o feddyginiaethau Rosalind yn cael eu rhoi.
Roedd hi’n cymryd meddyginiaeth ar gyfer clefyd Parkinson oedd yn “time critical”, yn ôl Lilly.
“So roedd rhaid i hwnna gael ei roi wyth o’r gloch yn y bore, chwech o’r gloch yn y prynhawn.
“A mae yna fel hanner awr either way bod hi’n gallu cael.”
Roedd Rosalind hefyd yn cymryd apixaban, cyffur teneuo’r gwaed, ar ôl dioddef ceuladau gwaed yn ei hysgyfaint ym mis Chwefror.
“Mae’n life saving,” meddai Lilly.
“Roedd hi’n gallu cael another clot, potential stroke.
“Gallai hi ’di marw os oedd hi ddim yn cael y meddyginiaeth.”
‘Don’t be cheeky’
Mae Lilly hefyd wedi codi pryderon am agwedd rhai o’r gofalwyr a’r cymorth oedd ar gael i’w mam-gu.
Dywedodd Rosalind wrth y teulu fod gofalwyr wedi dweud nad oedd ganddyn nhw amser i’w helpu i ddefnyddio’r comôd ar rai achlysuron, yn ôl Lilly,
Mae hi hefyd yn honni bod gofalwraig wedi dweud nad oedd hi wedi cael hyfforddiant i roi meddyginiaeth ac nad oedd yn gyfforddus yn gwneud hynny.
Yn ôl Lilly a’i chwaer, cafodd y gofalwraig ei chyfarwyddo i roi’r feddyginiaeth beth bynnag.
Ond nid yw hi'n beio’r gofalwraig.
“Hi’n just neud beth mae rheolwr hi yn dweud i hi neud,” meddai.
Mae Lilly hefyd yn dweud bod rheolwr wedi dweud wrth ei mam-gu am beidio â bod yn “cheeky” ar ôl iddi godi pryder am amser galwad.
Cwynion y teulu
Gwnaeth teulu Rosalind sawl cwyn am y gofal i Care Cymru ac i Gyngor Rhondda Cynon Taf.
Mae Newyddion S4C wedi gweld gohebiaeth rhwng y teulu, Care Cymru a’r cyngor.
Mae’r ohebiaeth yn dangos:
-Mewn cwyn ar 23 Chwefror, dywedodd y teulu fod galwadau’n digwydd yn rhy agos at ei gilydd neu y tu allan i’r amseroedd oedd wedi’u cytuno. Ar un achlysur, dywedon nhw na ddigwyddodd galwad nos tan 22:00 ar ôl i Rosalind ddefnyddio ei larwm. Mewn ymateb ar 27 Chwefror, ymddiheurodd Care Cymru a dywedodd fod dau aelod o staff wedi’u tynnu’n barhaol oddi ar alwadau Rosalind. Dywedodd hefyd y dylai pob galwad bara 30 munud ac y byddai ei chynllun gofal yn cael ei ddiweddaru.
-Mewn cwyn arall ar 30 Mawrth, dywedodd y teulu na chyrhaeddodd gofalwr tan 10:07 ar 25 Mawrth, er bod meddyginiaeth Rosalind i fod i gael ei rhoi am 08:00. Roedden nhw hefyd yn honni na chafodd Rosalind alwad amser cinio ar 28 Mawrth ac y gallai fod wedi bod heb gymorth am tua saith awr. Dywedodd Care Cymru fod lefelau uchel o salwch ymhlith staff wedi effeithio ar alwadau ar 25 a 28 Mawrth. Dywedodd fod yr ymweliad amser cinio wedi digwydd tua 13:30, ond na chafodd ei gofnodi oherwydd problem dechnegol.
-Cododd y teulu bryderon hefyd am wahaniaethau rhwng nifer y tabledi oedd yn weddill a’r cofnodion ar siartiau rhoi meddyginiaeth. Mewn e-bost ar 9 Ebrill, honnodd Lilly nad oedd saith dos o apixaban, dau ddos o linagliptin a dau ddos o asid alendronig wedi’u rhoi rhwng 16 a 30 Mawrth, er bod y siartiau wedi’u llofnodi. Dywedodd hefyd fod dos arall o linagliptin heb ei roi ar 8 Ebrill.
-Dywedodd Care Cymru fod Meds@Home, sy'n wasanaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg sy’n helpu pobl i reoli eu meddyginiaethau’n ddiogel gartref, wedi nodi gwahaniaethau gyda rhai meddyginiaethau. Yn ôl gohebiaeth y teulu, roedd y cyfrif yn dangos bod mwy o feddyginiaeth ar ôl nag oedd yn ddisgwyliedig. Dywedodd Care Cymru fod ei archwiliad ei hun wedi adlewyrchu rhai o’r canfyddiadau hynny.
Mae Lilly hefyd yn honni bod meddyginiaeth wedi’i chanfod ar y llawr a bod powlen o ddŵr wedi’i gadael ar fraich soffa uwchben offer trydanol oedd wedi’i blygio i mewn.
Roedd tabledi ar y llawr hefyd wedi’u nodi yng nghwyn ysgrifenedig gyntaf y teulu.
Dywedodd Care Cymru fod aelodau o staff oedd ynghlwm â rhai o’r digwyddiadau wedi cael eu hatgoffa am sgiliau cyfathrebu a disgwyliadau’r cwmni.
Roedd y cwmni hefyd wedi hunangyfeirio’r mater at y tîm diogelu.
‘Crio trwy’r amser’
Yn ôl Lilly, cafodd y profiad effaith fawr ar ei mam-gu.
“Roedd hi’n crio trwy’r amser, literally dagrau, a dweud, ‘What have I done to deserve this? I’ve never done anything to anybody. They’re gonna kill me.’”
Dywedodd Lilly fod clywed ei mam-gu’n dweud hynny wedi effeithio ar y teulu cyfan.
“So, roedd e’n neud ni fel teulu really drist i clywed,” meddai.
“Mae gen Mam-gu heart of gold. Hi’n neud unrhyw beth i unrhyw un.”
Ychwanegodd: “A i clywed hi’n dweud pethau fel yna, roedd e'n neud ni fel teulu rili drist, frustrated, stressed.
“Roedd ’na arguments rhwng ni i gyd, proper stress ar y teulu roedd e’n neud i ni.”
Dywedodd Lilly ei bod hefyd wedi gorfod cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith wrth geisio delio â’r problemau.
“Roedd fi’n cymryd like sick leave o gwaith i ddelio gyda hyn,” meddai.
Yn y pen draw, penderfynodd y teulu roi’r gorau i’r trefniant gyda Care Cymru a threfnu gofal drwy ddarparwr arall.
Ymateb y cyngor
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf:
“Mae’n ddrwg gennym am y gofid a brofwyd gan Mrs Jeremiah a’i theulu, ac am yr achlysuron pan nad oedd y gofal yn cyrraedd y safonau y dylent eu disgwyl gan Gyngor Rhondda Cynon Taf.
“Mae’r pryderon ynghylch ansawdd y gofal a’r cymorth wedi’u hymchwilio’n llawn ac wedi’u trin drwy weithdrefnau cwyno a diogelu’r cyngor.
“Rydym yn credu bod y darparwr gofal a gomisiynwyd wedi cymryd camau priodol i ddysgu o’r materion a nodwyd, gwella arferion ac ymddiheuro’n uniongyrchol i Mrs Jeremiah a’i theulu am eu profiad.”
Dywedodd y cyngor hefyd fod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi penderfynu peidio ag ymchwilio i’r mater.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod y darparwr wedi cymryd camau rhesymol i ymateb i’r pryderon.
O ganlyniad, dywedodd y cyngor nad yw’n bwriadu cymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r darparwr, y broses o gomisiynu gwasanaethau gofal cartref, nac ychwanegu darparwyr pellach at ei fframwaith.
Ychwanegodd fod darparwyr gofal cartref wedi’u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru a bod gan y cyngor drefniadau contractiol a monitro “cadarn” ar waith.
Galw am newid
Mae deiseb Lilly yn galw ar gynghorau Cymru i gyhoeddi sut mae contractau gofal yn cael eu dyfarnu.
Mae’n galw arnyn nhw i beidio â chomisiynu gofal ar sail y gost isaf yn unig.
Mae hefyd yn galw am well goruchwyliaeth o ddarparwyr gofal cartref ac am ymchwilio i fethiannau mewn arferion comisiynu.
Mae’r ddeiseb hefyd yn galw am isafswm lefelau staffio a hyfforddiant estynedig.
Dywedodd Lilly: “Mae cheapest doesn’t always mean the best care basically.”
Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ymchwil i brofiadau pobl o ofal cymdeithasol yng Nghymru.
Dywedodd y Comisiynydd wrth Newyddion S4C, mewn datganiad a gyfieithwyd i’r Gymraeg:
“Mae’r dystiolaeth a rannwyd gan bobl hŷn a’u hanwyliaid o bob rhan o Gymru yn awgrymu bod y system gofal cymdeithasol yng Nghymru ar hyn o bryd yn ‘dameidiog’, ac yn aml yn cael ei nodweddu gan gyfathrebu gwael, oedi, dyblygu a diffyg cydlynu.
“Mae’r problemau hyn yn effeithio ar les, ansawdd bywyd ac annibyniaeth pobl hŷn mewn nifer o ffyrdd, yn ogystal â rhoi galwadau sylweddol a phwysau ariannol ar ofalwyr di-dâl ac aelodau o’r teulu.”
Dywedodd Lilly mai ei gobaith yw y bydd y ddeiseb yn arwain at newid.
Ar hyn o bryd, mae’r ddeiseb wedi ennyn 591 o lofnodion.
“So mae hwnna’n gobaith gen i fi ni’n gallu mynd i’r 10,000 o lofnodion i cael y Senedd i gael debate wedyn a fingers crossed bydd pethau yn newid am bawb.”