Cynnal gwasanaeth coffa 50 mlynedd ers i ddyn ifanc farw wrth gerdded i Eisteddfod Aberteifi 1976
Mae teulu dyn 19 oed a fu farw wrth gerdded i Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi 1976 yn cynnal gwasanaeth coffa iddo 50 mlynedd ers ei farwolaeth.
Roedd Mansel Thomas wedi cael ei ladd ar ôl cael ei daro gan gar wrth gerdded gyda’i ffrindiau i faes yr Eisteddfod.
Cafodd ei gludo i’r ysbyty, ond penderfynodd ei deulu ddiffodd ei beiriant cynnal bywyd ar 7 Awst 1976.
50 mlynedd yn ddiweddarach, mae brawd a chwiorydd Mansel wedi penderfynu cynnal gwasanaeth coffa iddo ar ddydd Sadwrn olaf yr Eisteddfod.
Dywedodd brawd Mansel, Dai Thomas, a oedd yn wyth oed pan fu farw ei frawd, fod bywyd ei deulu “wedi newid am byth” o ganlyniad i’r hyn a ddigwyddodd.
“Ar yr wythnos hon yn 1976, newidiodd ein bywydau am byth,” meddai wrth Newyddion S4C.
“Wnaethon ni erioed ddod dros yr hyn a ddigwyddodd.
“Cafodd ein teulu ei rwygo’n ddarnau gan yr hyn a ddigwyddodd i Mansel,
“Fel teulu, doedden ni ddim wir yn siarad llawer am ein brawd oherwydd roedd fy mam yn amddiffynnol iawn o’n teimladau.”
Eleni yw’r tro cyntaf i’r Eisteddfod ddychwelyd i ardal ger Aberteifi ers 50 mlynedd.
Cafodd Mansel, oedd yn byw ym Moncath, ei daro gan gar ar noson gyntaf yr Eisteddfod y flwyddyn honno.
Dywedodd ei frawd, Dai, fod clywed mai ger Aberteifi y byddai’r brifwyl eleni yn rhywbeth anodd iawn ei dderbyn.
“Roedden ni’n gobeithio na fyddai’r wythnos hon byth yn dod,” meddai.
“Pan wnaethon ni ddarganfod fod yr Eisteddfod yn dychwelyd i ardal ger Aberteifi, roedd yn anodd iawn, ac mae’r wythnos hon wedi bod mor anodd.
“Mae sawl atgof wedi dychwelyd.”
Bydd y gwasanaeth i gofio Mansel yn cael ei gynnal yng Ngwesty’r Black Lion yn Aberteifi am 15:00 ddydd Sadwrn.
Mae gweld yr ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol a’r nifer sy’n bwriadu mynychu’r gwasanaeth wedi bod o gysur i Dai a’i deulu.
“Mae negeseuon pawb wir wedi gwneud gwahaniaeth,” meddai.
“Rydyn ni wedi derbyn sawl sylw ar y cyfryngau cymdeithasol am y digwyddiad ac am Mansel, ac mae hynny’n braf iawn i’w weld.
“Rydyn ni’n gobeithio y bydd llawer o bobl yn mynychu, gan gynnwys ffrindiau fy mrawd, llawer ohonynt nad oeddwn i’n gwybod amdanynt.
“Hoffwn i bobl gofio Mansel am y person gwych oedd o.”