Cyhuddo pedwar wedi i ddau fachgen 17 oed o Gaerdydd gael eu harestio yng Ngwlad Thai

Pattaya, Gwlad Thai. Llun: Don Ramey Logan
Pattaya, Gwlad Thai

Mae’r heddlu wedi cyhuddo pedwar o bobl wedi i ddau fachgen 17 oed o Gaerdydd gael eu harestio yng Ngwlad Thai.

Ym mis Mehefin, dechreuodd Heddlu De Cymru ymchwiliad i’r amgylchiadau a arweiniodd at y plant, sydd heb eu henwi, yn teithio i Wlad Thai.

Mae’r plant yn parhau yn y ddalfa yng Ngwlad Thai, lle maen nhw’n cael cymorth gan eu teuluoedd a’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad.

O ganlyniad i’r ymchwiliad, sy’n parhau, mae’r heddlu wedi cadarnhau bod pump o bobl wedi eu harestio yng Nghaerdydd a Gorllewin Swydd Efrog ddydd Mercher, Awst 5.

Mae pedwar ohonyn nhw bellach wedi eu cyhuddo.

Mae Levi Mohamed, 20 oed, o Drenewydd, Caerdydd, wedi cael ei gyhuddo o gynllwynio yn dwyllodrus i osgoi gwaharddiad ar fewnforio cyffur dosbarth B, a phedwar cyhuddiad o gynllwynio i drefnu i berson arall deithio gyda’r bwriad o gamfanteisio.

Mae Patrick O’Driscoll, 30 oed, o’r Tyllgoed, Caerdydd, wedi cael ei gyhuddo o gynllwynio yn dwyllodrus i osgoi gwaharddiad ar fewnforio cyffur dosbarth B, pedwar cyhuddiad o gynllwynio i drefnu i berson arall deithio gyda’r bwriad o gamfanteisio, a bod ag arf saethu yn ei feddiant.

Mae Gareth Press, 42 oed, o Drelái, Caerdydd, wedi cael ei gyhuddo o gynllwynio yn dwyllodrus i osgoi gwaharddiad ar fewnforio cyffur dosbarth B, a dau gyhuddiad o gynllwynio i drefnu i berson arall deithio gyda’r bwriad o gamfanteisio.

Mae Ffion Bowes-Cavanagh Hooley, 24 oed, o’r Tyllgoed, Caerdydd, wedi cael ei chyhuddo o gynllwynio yn dwyllodrus i osgoi gwaharddiad ar fewnforio cyffur dosbarth B.

Mae dyn 23 oed o Keighley, Gorllewin Swydd Efrog, a gafodd ei arestio ar amheuaeth o fewnforio cyffuriau rheoledig yn anghyfreithlon, wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu.

Bydd y rhai sydd wedi cael eu cyhuddo yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Gwener, Awst 7.

Mae’r teuluoedd wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf am yr arestiadau a’r cyhuddiadau.

“Rydym yn deall bod hwn yn parhau i fod yn gyfnod pryderus iddyn nhw ac i’r gymuned ehangach,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth neu bryderon gysylltu â Heddlu De Cymru, gan ddyfynnu 2600200125.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.