Y Bandana yn barod amdani wrth ail-ffurfio yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las

Y Bandana yn barod amdani wrth ail-ffurfio yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las

Fe fydd y grŵp roc, Y Bandana, yn ail-ffurfio ac yn camu ar Lwyfan y Maes yn Eisteddfod y Garreg Las nos Wener. 

Ar ôl 10 mlynedd o seibiant, fe fydd y pedwar aelod gwreiddiol, sef Robin Jones, Tomos Owens, Siôn Owens a Gwilym Bowen Rhys yn camu ar Lwyfan y Maes nos Wener am 21:00. 

Dyma fydd eu perfformiad cyntaf ar Faes yr Eisteddfod ers Eisteddfod Y Fenni yn 2016.

Gyda chyfanswm o 17 o berfformiadau ym Maes B ac ar lwyfannau perfformio’r Eisteddfod dyma un o’r bandiau sydd wedi ymddangos amlaf yn y Brifwyl.

Wrth siarad â Newyddion S4C, fe ddywedodd prif leisydd y band Gwilym Bowen Rhys:  "Y tro dwytha’ i’r pedwar ohona  ni chwara efo’n gilydd oedd ein gig olaf i fod sef yn Neuadd y Farchnad yng Nghaernarfon ym mis Hydref 2016 so fydd hi bron yn ddeng mlynedd ers i  ni chwara efo’n gilydd.

"O’dda ni ‘di bod yn siarad am y peth ers sbel a wedyn o’dd y cynnig ‘di dod gan y ’Steddfod a nathon ni ddeud ‘Duw, 10 mlynadd’ ‘Well neud hyn na neud o’n 20 mlynadd falla fyddan ni methu canu dim mwy so waeth i ni neud o tra ‘dan ni dal wrthi.

Mae'r band yn edrych ymlaen yn fawr at eu perfformiad cyntaf mewn bron i ddegawd yn ôl Gwilym.

"‘Dan ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn, ‘dan ni bach yn nerfus, neu dwi’n siarad dros fi fy hun yn deud  bo’ fi bach yn nerfus achos ‘dan ni isio neud hi’n dda t’mod?" meddai. 

"Ond na, cyffro ydi’r prif beth."

Yn ôl Gwilym, fe all y dorf ddisgwyl clasuron y band, ond gydag ambell newid ychwanegol. 

"Fedrith y dorf ddisgwyl y clasuron, falle hen ganeuon o’n dyddia cynnar ni hefyd, ond ia, gobeithio yr un faint  o egni ag ella bach o o elfennau cerddorol  ychwanegol hefyd," meddai.

"Ma’n braf iawn gallu dod at ein gilydd a wedyn ma’n lot o hwyl gallu chware cerddoriaeth efo pobl ti ‘di arfer neud, a ma’n syndod pa mor hawdd  ma’n dod yn ôl, ma’n dod yn ôl yn sydyn iawn hyd yn oed ar ôl 10 mlynedd.

Ychwanegodd: "O’n i methu cweit credu bo’ ni ‘di cael cynnig y slot nos Wener, Anweledig o’dd yn chwara fo llynadd ag o’n i’n teimlo fa‘tha bo’ ni ddim yn haeddu fo cweit ond neidio ar y cyfle, isio neud job dda, ac yn ddiolchgar i’r  ‘Steddfod am y cyfle ac yn ddiolchgar i bawb fydd yn fodlon dod i’n gweld ni.

"Ar hyn o bryd, ‘dan ni ddim yn  mynd i neud dim byd arall ond o’dda ni’n deud hynna 10 mlynedd yn ôl so pwy a ŵyr? Ia, never say never ‘de. "

Wrth gyhoeddi'r newyddion ym mis Mawrth, dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod: “Rydyn ni’n hynod falch o allu cadarnhau heddiw bydd y Bandana yn cloi nos Wener ar y Llwyfan. Gyda rhes o ganeuon poblogaidd yn rhan o’u casgliad – maen nhw yn siŵr o ddenu ac apelio at gynulleidfa eang.

"Mi fydd eu perfformiad yn ffordd wych o ddathlu ein wythnos yn Sir Benfro.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.