Pa fardd enillodd pa Gadair?
A hithau yn ddydd Gwener yr Eisteddfod Genedlaethol, diwrnod Cadeirio'r prifardd buddugol - rydym wedi twrio drwy luniau rhai o'r cadeiriau sydd wedi eu hennill yn y gorffennol.
Ydych chi'n gallu dyfalu pa Brifardd enillodd y cadeiriau isod? (atebion ar waelod y dudalen)
- Roedd enillydd y gadair hon yn Wrecsam 2011 yn cael ei ystyried ymysg yr ieuengaf i ennill Cadair yr Eisteddfod ar y pryd.
2. Fe gipiodd y bardd yma y gadair, ychydig wythnosau yn dilyn llwyddiant tîm Cymru ym mhencampwriaeth Euro 2016.
3. Fe aeth enillydd y gadair wahanol hon ymlaen i fod yn Archdderwydd.
4. Nid dyma'r gadair gyntaf i un, o sawl Prifardd o fewn yr un teulu agos.
5. Yn anffodus, ni chafodd y Prifardd yma'r fraint o eistedd yn ei gadair.
6. Roedd yn rhaid i'r Prifardd yma aros am dros ddwy flynedd cyn cael eistedd yn ei gadair oherwydd pandemig y coronafeirws.
7. Ychydig iawn o Brifeirdd sydd wedi ennill mwy 'na dwy gadair.
8. Roedd y Prifardd poblogaidd yma wedi ysgrifennu awdl fel coffâd am ei ddiweddar dad.
9. Fe fyddai'r Prifardd yma yn gallu cynganeddu mewn sawl iaith, yn cynnwys Llydaweg.
ATEBION:
- Y Prifardd Rhys Iorwerth (Wrecsam, 2011)
- Y Prifardd Aneirun Karadog (Y Fenni, 2016)
- Y cyn-Archdderwydd Myrddin ap Dafydd (Tŷ Ddewi, 2003)
- Y Prifardd T. James Jones (Jim Parc Nest, Llanrwst, 2019)
- Y Prifardd Ellis Humphrey Evans (Hedd Wyn, Penbedw, 1917)
- Y Prifardd Llŷr Gwyn Lewis (Tregaron, 2022)
- Y Prifardd Alan Llwyd (Boduan, 2023)
- Y Prifardd Carwyn Eckley (Pontypridd, 2024)
- Y Prifardd Twm Morys (Meifod, 2003)